Beth yw ein blaenoriaethau a sut hwyl rydym yn ei chael arni
Strategaethau a chynlluniau, dangosyddion perfformiad, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau.
Adroddiad Blynyddol
Gallwch weld ein hadolygiad blynyddol diweddaraf a darllen adolygiadau o'r blynyddoedd blaenorol.
Cynlluniau Corfforaethol a busnes
Amlinellir cyfeiriad strategol y Brifysgol yn Y Ffordd Ymlaen 2012-2017. Mae hwn yn amlinellu ein strategaeth addysgu a dysgu, ein hymrwymiad i gwrdd ag ansawdd a safonau academaidd, datblygu prosiectau a phartneriaethau yn y gymuned, a’r dangosyddion perfformiad a fydd yn ein helpu ni i fesur ein cynnydd.
Strategaeth addysgu a dysgu
Fel rhan o Y Ffordd Ymlaen, rydym wedi datblygu strategaeth ar addysg a myfyrwyr, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cefnogi myfyrwyr drwy’r cyfnod o bontio at ddysgu annibynnol a recriwtio myfyrwyr o bob haen o gymdeithas.
Ansawdd a safonau academaidd
Rydym yn gweithredu system ansawdd a safonau sy’n cwmpasu amryw o weithgareddau, prosesau a gweithdrefnau i roi’r flaenoriaeth uchaf i wella’n barhaus ansawdd ein rhaglenni a’r profiad addysgol a ddarperir i’n myfyrwyr.
Archwiliadau mewnol ac allanol
Adolygiad allanol
Mae gwybodaeth ar gael ynghylch ein canlyniadau yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae gennym hefyd nifer o nodau ansawdd sy’n dilysu ein safle fel prifysgol sy’n gweithredu yn unol â’r safonau ansawdd uchaf.
Mae'n ofynnol i Arholwyr Allanol gyflwyno Adroddiad Arholwr Allanol i'r Brifysgol yn flynyddol.
Adolygiad mewnol
Mae data ansoddol ar ansawdd a safon ein dysgu a’n haddysgu ar gael yn yr adroddiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd.
Gallwch hefyd gael manylion am rolau, cyfrifoldebau ac awdurdod cyrff gwahanol yn y sefydliad sy’n ymwneud â chymeradwyo ac adolygu rhaglenni.
Cysylltiadau corfforaethol
Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gweithio â busnesau a rhai o’r cwmnïau rydym yn gweithio gyda nhw
Adroddiadau llywodraethu a rheoleiddiol
Ein perfformiad yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Adroddiadau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.
Cydymffurfio â'n dyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Mae ein polisïau ac adnoddau cydraddoldeb ar gael i'w gweld.
Cynaliadwyedd
Gwybodaeth ynghylch ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.