Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth ôl-raddedig

Datblygwch eich gwybodaeth, dyfnhewch eich dealltwriaeth a miniogwch eich sgiliau gyda'n cyrsiau addysg ôl-raddedig a addysgir a'n modiwlau unigol.

Advanced Clinical Practitioner with nurse practitioner on ward

Cyrsiau ôl-raddedig a addysgir

Rydym yn ddarparwr blaenllaw mewn addysg ôl-raddedig ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Yn cyfuno sesiynau cyswllt ac addysgu hunan-gyfeiriedig, mae ein rhaglenni addysg ôl-raddedig yn elwa o fewnbwn ymchwilwyr a chlinigwyr sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd arbenigol.

Mae manylion y cyrsiau isod trwy gyfrwng y Saesneg.

Cyfleoedd newid gyrfa

Mae gennym ni ddwy raglen newydd yn dod yn fuan.

Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol  (SCPHN)- Ymwelwyr Iechyd

Os ydych chi'n nyrs neu fydwraig gymwysedig, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau babanod, plant a'u teuluoedd.

Cofrestrwch eich diddordeb i ddarganfod mwy

Ymarfer Arbenigol Gofal Cymunedol a Sylfaenol

Os ydych chi'n nyrs gymwysedig sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymunedol neu gynradd, bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi arwain ac ysbrydoli.

Cofrestrwch eich diddordeb i ddarganfod mwy

Ein cyrsiau

Course Qualification Mode
Adrodd Radiograffig PgCert Rhan amser
Cyn-Gofrestru Ffisiotherapi MSc Amser llawn
Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc Amser llawn, Rhan amser
Ffisiotherapi MSc Amser llawn, Rhan amser
Radiograffeg MSc Amser llawn, Rhan amser
Rhagnodi Annibynnol/Atodol PgCert Rhan amser, Dysgu cyfunol rhan amser
Therapi Galwedigaethol Cyn-cofrestru MSc Amser llawn
Therapi Galwedigaethol MSc Amser llawn, Rhan amser
Ymarfer Clinigol Uwch MSc Dysgu cyfunol llawn amser, Dysgu cyfunol rhan amser
Ymarfer Gofal Iechyd Uwch Amser Llawn MSc Amser llawn
Ymarfer Gofal Iechyd Uwch MSc Rhan amser

Modiwlau ar wahân

Mae pob un o'n modiwlau ôl-raddedig ar gael fel cyrsiau ar wahân. Mae rhai o'r modiwlau o AHP a Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi eu rhannu ar draws y proffesiynau.

Mae rhai modiwlau yn benodol i’r proffesiwn a/neu gall fod angen i’r myfyriwr weithio mewn ardal glinigol benodol wrth wneud y modiwl. Cysylltwch â'r arweinydd modiwl am fwy o wybodaeth.

Cofrestru

Mae dyddiadau cofrestru a sefydlu ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a ymchwil ar gael ar dudalennau cofrestru.

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Byddwch yn ymwybodol bod y Broses o Gydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn cymryd sawl wythnos i'w chwblhau ac felly byddem yn annog ceisiadau cynnar. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Gorffennaf ar gyfer mynediad i raglenni y mis Medi canlynol. Gall ceisiadau hwyr ohirio dyddiad dechrau'r rhaglen o flwyddyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â rheolwr y rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan RPL.