Ewch i’r prif gynnwys

Adrodd Radiograffig (PgCert)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Rhan amser

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd sy’n fodd i bobl broffesiynolion gofal iechyd cymwysedig weithredu fel proffesiynolion annibynnol wrth gyflawni tasgau adrodd ar ddelweddau clinigol yn eu gweithle.

certificate

Rhaglen achrededig

Achredir y rhaglen hon gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr.

people

Cymuned ddysgu

Byddwch yn elwa ar ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol sy'n astudio ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.

tick

Cefnogaeth i fyfyrwyr

Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.

academic-school

Addysgu o ansawdd uchel

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff clinigol ac addysgol profiadol sydd ag enw da sylweddol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

microphone

Cynrychiolydd myfyrwyr

Cewch y cyfle i ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr ac i lywio darpariaeth addysgol ar gyfer y dyfodol.

Ymunwch â’n rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Adrodd Radiograffig sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr ac sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i ehangu eich gwybodaeth a gwella eich sgiliau clinigol yn y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym. Mae modd trosglwyddo'r sgiliau a gewch ar y rhaglen hon i bob sefydliad gofal iechyd ac maen nhw’n cael eu cydnabod dramor.

Mae ein rhaglen wedi’i hanelu at y rhai hynny sydd â chymhwyster ac sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd fel radiograffydd diagnostig neu radiograffydd therapiwtig, neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd wedi cofrestru â Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) neu gyfwerth.

Nod y cwrs rhan-amser hwn yw datblygu eich sgiliau o ran adrodd radiograffig ac arferion craidd eraill sy’n gysylltiedig â radiograffeg. Oherwydd ein dull dysgu dewisol, byddwch yn cael y cyfle i ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd orau â'ch anghenion fel bod eich dysgu'n berthnasol i chi. Mae ein modiwlau dewisol yn canolbwyntio ar feysydd o Adrodd Radiograffig ar yr Abdomen i Adrodd Radiograffig Atodol ac Echelinol

Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio yn ein hystafell pelydr X gyffredinol bwrpasol gyda system PACS ar gyfer gweld delweddau ac at ddibenion arbrofol. Yn ogystal â man pwrpasol ar gyfer pelydr X, mae gennym hefyd offer dosimetreg, ystafell hyfforddiant radiograffeg sy’n defnyddio dulliau efelychu rhyngweithiol 3D gan gynnwys cyfrifiaduron Shaderware ac offer uwchsain pwrpasol sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd ymchwil ac i wella eich dysgu.

Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol yn eich dysgu ac yn eich cefnogi, yn ogystal ag arbenigwyr clinigol. Mae radiolegwyr a radiograffwyr clinigol yn cefnogi pob un o'r modiwlau clinigol gan sicrhau bod lefel uchel o wybodaeth glinigol gyfredol a pherthnasol yn cael ei chymhwyso ochr yn ochr â'r gofyniad i gwestiynu ymarfer. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi hefyd, a fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau.

Byddwch hefyd yn rhan o grŵp o fyfyrwyr sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd clinigol sydd hefyd yn gwella eich profiad dysgu a byddwch yn cael eich annog i rannu syniadau a phrofiadau.

Bydd ein rhaglen yn cefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol, yn ogystal â dylanwadu ar lywio gofal iechyd ar draws Cymru a thu hwnt.

Achrediadau

Society and College of Radiographers

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu wedi pasio Diploma Addysg Uwch mewn Radiograffeg, neu radd ryngwladol gyfwerth. 
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod yn radiograffydd cymwys gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad clinigol cyfwerth ag amser llawn a'ch bod yn gweithio mewn adran radioleg/mamograffeg yn y DU ar hyn o bryd. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
  4. Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau allweddol canlynol:
  • Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon?
  • Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen hon?
  • Dealltwriaeth o'r modiwlau sy'n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
  • Sut rydych yn bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa a'r budd proffesiynol posibl o'ch astudiaethau.
  • Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.

 

Os ydych yn bwriadu cwblhau modiwlau HCT207 Atodol/Adrodd Radiograffig Echelinol ac HCT108 Adult Chest and Abdomen Report, rhaid eich bod wedi sicrhau cefnogaeth mentor radiolegol ar adeg y cais. Rhowch fanylion i'ch mentoriaid fel eich ail ganolwr a'u gwneud yn ymwybodol y bydd tîm y rhaglen mewn cysylltiad i gadarnhau eu cefnogaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau yn cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen fodiwlaidd yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Adrodd Radiograffig a rhaid i fyfyrwyr gwblhau 60 credyd yng nghydran a addysgir y rhaglen. Mae un modiwl (30 credyd) yn fodiwl craidd a rhaid ei gymryd. Ceir dewis o un modiwl dewisol (30 credyd).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Ym Mlwyddyn Un byddwch yn cwblhau 1 modiwl craidd ac 1 dewisol (30 credyd)

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Addysgir yn bennaf drwy weithdai, tiwtorialau a seminarau. Ceir darlithoedd hefyd, a cheir cyfleoedd priodol i drafod a gwerthuso’r syniadau a gyflwynir ar ôl y rhain. Cefnogir y cynnwys gan adnoddau ar-lein.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o weithdrefnau asesu, fel aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, portffolio a phrosiectau seiliedig ar waith. Ceir hefyd archwiliadau clinigol yn y modiwlau adrodd. Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfa ond hefyd i ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o leoliadau clinigol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r broses hon o rannu syniadau yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Ceir cyfle i drafod a chyfnewid syniadau mewn seminarau a thiwtorialau.

Rydych chi’n cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw faterion gofal bugeiliol yn ogystal â chyngor ar faterion academaidd.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Caiff pob darlith ei recordio drwy Panopto ac maen nhw ar gael i chi drwy gydol eich rhaglen.

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.

Dyma rai o’r nodweddion:

  • Mapiau o’r campws
  • Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
  • Amserlen myfyrwyr
  • Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
  • Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Newyddion myfyrwyr
  • Derbyn hysbysiadau pwysig
  • Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog)
  • Dolenni i apiau a argymhellir fel nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o’ch profiad fel myfyriwr.
  • Mae cysylltiadau’n cael eu datblygu gydag Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru a gellir hwyluso rhai sesiynau yn y safle hwn.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Nodi ac adnabod anatomi normal ac annormal, gan ddangos meistrolaeth o sgiliau mewn meysydd arbenigol penodedig o anatomi radiograffig, patholeg a diagnosisau gwahaniaethol.
  • Ffurfioli diagnosis yn y maes penodedig i safon lle nad yw gofal cleifion yn cael ei beryglu
  • Llunio adroddiad ysgrifenedig cywir, llawn gwybodaeth mewn ffordd gryno a chydlynol, gan ddefnyddio sgiliau datrys problemau arbenigol
  • Ymateb i gyfyng-gyngor moesegol o fewn y maes ymarfer proffesiynol hwn ac awgrymu opsiynau delweddu pellach yn ôl y gofyn
  • Gwerthuso tystiolaeth sy'n seiliedig ar ymchwil yn feirniadol mewn perthynas â delweddu ac adrodd a thrafod y goblygiadau ar gyfer ymarfer proffesiynol.

Sgiliau Deallusol:

  • Dadansoddi ymchwil yn feirniadol.
  • Myfyrio a dadansoddi’r proffesiwn radiograffeg a'ch ymarfer eich hun yn feirniadol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Sgiliau ymarferol mewn meysydd ymarfer sy’n datblygu.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol

  • Sgiliau cyfathrebu hyderus
  • Sgiliau ysgrifennu ac astudio academaidd hanfodol.
  • Sgiliau trefnu eich hun a rheoli amser.
  • Datblygu sgiliau ymchwil ymarferol a'u cymhwyso wrth ymarfer.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae astudio ar lefel ôl-raddedig yn hanfodol os ydych am gynyddu i bractis uwch ac arbenigol. Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig yn hanfodol ar gyfer ymgymryd â rolau adrodd radiograffig mewn adran radioleg. Caiff y cymhwyster ei ddilysu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr ac mae'n drosglwyddadwy ledled y DU.

Mae ein modiwlau'n amrywiol ac yn heriol ac yn rhoi cyfle i chi ystyried dilyniant o fewn ymarfer clinigol, ond hefyd i hwyluso symud i'r byd academaidd neu ymchwil.

Mae ein graddedigion wedi ennill rolau gan gynnwys:

  • Arbenigwyr clinigol
  • Adrodd Radiograffwyr
  • Swyddi rheoli radiograffeg
  • Radiograffeg a swyddi addysg glinigol.
  • Darlithydd

Lleoliadau

p>Mae lleoliad clinigol yn ofynnol ar gyfer y modiwlau clinigol - rhaid i fyfyrwyr fod yn gweithio yn yr amgylchedd clinigol i allu ymarfer y sgiliau hyn. Rhaid cytuno ar y mentor radiolegol cyn dechrau'r rhaglen a rhaid i dimau'r modiwlau ei gadarnhau. Nid yw Prifysgol Caerdydd yn trefnu'r lleoliadau clinigol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Meddygaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.