Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (MSc)

  • Hyd: Tair blynedd
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod rhaglen ein MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch yw datblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch gwerthfawrogiad beirniadol o’r pedair prif agwedd ar ymarfer lefel uwch.

Our programme is suitable for those progressing towards a level of autonomous advanced practice as well as experienced registered health care professionals, already working as advanced practitioners. It offers you the opportunity to apply learning to advance your leadership and management, facilitation of learning and teaching, and clinical practice skills, all of which are underpinned by evidence, research and service improvement.

Aimed at both home and international students, our unique programme has an optional choice of modules, allowing you to tailor your learning to suit your varying clinical and professional needs and to complement workforce requirements. You will become actively involved in practice development and leadership and the compulsory research and leadership and management components of the programme will equip you with the tools to analyse, evaluate and monitor ever evolving healthcare scenarios and apply learning to your work.

We promote interdisciplinary learning for the benefit of our students. Our postgraduate course will enable you to work alongside other home and international students from a range of healthcare professions. You will gain wider perspectives, share knowledge and develop approaches and systems to improve healthcare practice.


Mae ein rhaglen yn addas ar gyfer y rhai sy'n symud ymlaen tuag at lefel o ymarfer uwch ymreolaethol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig profiadol sydd eisoes yn gweithio fel uwch-ymarferwyr. Mae'n cynnig cyfle i chi gymhwyso dysgu i ddatblygu eich sgiliau arwain a rheoli, hwyluso dysgu ac addysgu, ac ymarfer clinigol, y mae tystiolaeth, ymchwil a gwella gwasanaeth yn sail i bob un ohonynt.

Wedi'i anelu at fyfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol, mae gan ein rhaglen unigryw ddewis dewisol o fodiwlau sy'n eich galluogi i deilwra'ch dysgu i weddu i'ch anghenion clinigol a phroffesiynol amrywiol ac i ategu gofynion y gweithlu. Byddwch yn chwarae rhan weithredol wrth ddatblygu ymarfer ac arweinyddiaeth a bydd cydrannau ymchwil ac arweinyddiaeth a rheolaeth orfodol y rhaglen yn eich cyflenwi â'r cyfarpar i ddadansoddi, gwerthuso a monitro senarios gofal iechyd sy'n esblygu'n barhaus a chymhwyso'r dysgu i'ch gwaith.

Rydym yn hyrwyddo dysgu rhyngddisgyblaethol er budd ein myfyrwyr. Bydd ein cwrs ôl-raddedig yn eich galluogi i weithio ochr yn ochr â myfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol eraill o ystod o broffesiynau gofal iechyd. Byddwch yn ennill safbwyntiau ehangach, yn rhannu gwybodaeth, ac yn datblygu dulliau a systemau i wella arfer gofal iechyd.

Nodweddion unigryw

Ymunwch ag ysgol sy'n rhoi pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil. Dyma rai o nodweddion allweddol sy’n dangos pam rydyn ni'n credu y bydd ein rhaglen MSc yn eich gwneud yr ymarferydd gofal iechyd gofau y gallwch fod:

  • Rhaglen wedi'i hadeiladu i weddu i'ch anghenion: Gallwch chi deilwra'ch dewisiadau modiwl mewn ffordd sy'n gweddu orau i'ch datblygiad proffesiynol a'ch rhagolygon gyrfa.
  • Mapiwyd y rhaglen: i safonau ar gyfer y Fframwaith Ymarfer Uwch ar gyfer Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Ymarfer Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru (NLIAH 2010), Safonau Ymarfer Lefel Uwch ar gyfer Nyrsio (RCN 2018) a fframwaith amlbroffesiynol ar gyfer Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (HEE 2018).  Mae'r rhaglen hefyd wedi'i mapio yn erbyn Safonau Ymarfer Lefel Uwch ar gyfer Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) (2018). Efallai y bydd nyrsys sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais am gymhwyster ychwanegol gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol: https://www.rcn.org.uk/professional-development/professional-services/credentialing
  • Byddwch yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad ymarfer: a fydd yn dylanwadu ar ansawdd y gofal a ddarperir.  Cydnabyddir bod arweinyddiaeth ym maes iechyd a gwella ansawdd yn ganolog i ddarparu safon uchel o ofal i gleifion a byddwch yn datblygu'r sgiliau hyn yn ystod y rhaglen.
  • Gwnewch wahaniaeth i'ch addysg: Rydym yn cynnig cyfle i chi ddod yn gynrychiolydd myfyrwyr a siapio darpariaeth addysgol yn y dyfodol a chynghori ar elfennau allweddol o'ch dysgu. 
  • Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth Byddwch chi'n dysgu mewn Ysgol sy'n Ganolfan Joanna Briggs achrededig , gan wella ansawdd a chanlyniadau gofal iechyd yn fyd-eang.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Academic requirements:

Typically, applicants to this programme must:

  • Be a health care practitioner and normally in possession of a degree/diploma in health care.
  • Have a minimum of two years' post registration experience.
  • Submit one employer’s reference.
  • Submit a supplementary application form in order to undertake Professional, Statutory and Regulatory Bodies (PSRB)-related module: HCT353 Advanced Clinical Practice Portfolio.

Current registration with a UK Professional, Statutory and Regulatory Bodies (PSRBs) and securing a relevant clinical placement is required for HCT353 Advanced Clinical Practice Portfolio module.

 

A personal statement will need to be submitted with your application.

The personal statement on your application form will be considered when a decision is made on your suitability for the programme for which you have applied.

You must address the following points in your personal statement. This list is not exhaustive:

  • Why have you selected this programme?
  • What interests you about this programme?
  • Any relevant experience related to the programme or module content.
  • How you plan to use the qualification in your career.
  • How you and your profession will benefit from your studies.
  • Why you feel you should be given a place on the programme.

 

You may apply for recognition of prior learning (RPL) at level 6 for module NR3177A/B only or level 7 of up to 60 credits, of which ONLY 30 credits can be at level 6. Please contact the MSc Advanced Healthcare Practice Programme Manager to discuss RPL queries.

RPL is considered through mapping of learning outcomes of comparable modules. You will only be able to RPL a level 6 module if it maps to module NR3177b. Please contact the MSc Advanced Clinical Practice Programme Manager to discuss RPL queries.

If you intend to apply for recognition for prior learning, this will need to be submitted with your application.

For further information regarding RPL, please see the RPL policy

 

English Language requirements:

IELTS with an overall score of 6.5 and at least 5.5 in all subskillsm or an accepted equivalent. Please see our English Language Requirements guidance for more details.

Please note that applicants with an IELTS score of overall 6.0 may be eligible for an offer based upon attendance on pre-sessional English language course offered by Cardiff University. Please be advised that places on these courses are limited so please apply early. Further information can be accessed via the following link: http://www.cardiff.ac.uk/study/international/english-and-foundation-programmes/english-language-programmes/pre-sessional-summer-courses

 

Application deadline:

End of July of each academic year. Your application may be considered after this, but it may be for a later intake.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

A DBS (Disclosure Barring Service) certificate is required to undertake the following modules:

  • HCT353 Advanced Clinical Practice Portfolio

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae rhaglen ran-amser yr MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch yn dair blynedd.

Yn semester Hydref y flwyddyn gyntaf, rhaid i chi gwblhau modiwl craidd Dulliau Ymchwil a Dadansoddi Data mewn Gofal Iechyd (30 credyd) ac yna, yn semester Gwanwyn y flwyddyn gyntaf, yr ail fodiwl craidd Trawsnewid Gofal, Systemau a Gwasanaethau trwy Arweinyddiaeth (30 credyd).

Yn yr ail flwyddyn, rhaid i chi gwblhau un modiwl dewisol yn semester yr Hydref ac yna un modiwl dewisol yn semester y Gwanwyn (cyfanswm o 60 credyd).

Ar ôl cyflawni cyfanswm o 120 credyd o gydran a addysgir y cwrs, gallwch wedyn gychwyn modiwl traethawd hir 60 credyd o'ch dewis ar ddechrau Blwyddyn 3.

Mae'r MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch yn gyfanswm o 180 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau dau fodiwl craidd sy'n cyfateb i 60 credyd.

Blwyddyn dau

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn cwblhau dau fodiwl dewisol sy'n cyfateb i 60 credyd.

Blwyddyn tri

Traethawd Hir – dewis o 1 (60 credyd).

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cyflwynir y rhaglen gan ddefnyddio strategaethau dysgu cyfunol.

Mae dysgu cyfunol yn ddull addysgu sy'n cynnwys cyfuniad o weithgareddau dysgu personol ac ar-lein. Mae'r gwahanol ddulliau y byddwn yn eu defnyddio fel rhan o raglen yr MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch yn amrywio o diwtorialau i seminarau a arweinir gennych chi fel myfyrwyr, deialog, trafodaeth a dadl, modiwlau sy'n seiliedig ar ddysgu seiliedig ar broblemau, ymchwilio gwerthfawrogol, gweithdai a sesiynau galw heibio i ddatrys pryderon penodol i fodiwl, astudio hunangyfeiriedig, a darlithoedd dan arweiniad arbenigwyr. Gan y bydd ein rhaglen yn tynnu ar ystod eang o broffesiynau, bydd y gwahanol ddulliau yn galluogi hwyluso dysgu rhyngbroffesiynol a rhannu gwahanol safbwyntiau ac arbenigedd proffesiynol.

Fel myfyrwyr, byddwch yn ymuno â'r rhaglen o ystod eang o broffesiynau, a chydag ystod eang o sgiliau; efallai y bydd gan rai ohonoch swyddi uwch fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Defnyddir y profiadau hyn i wella'r broses ddysgu o ran dysgu annibynnol a dysgu ar y cyd.

Bydd y syniad o ddysgu oedolion yn llywio'r broses ddysgu ac addysgu, gan fod astudio ar lefel gradd ôl-raddedig yn golygu eich bod chi fel myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, a fydd yn cael ei annog trwy gydol y rhaglen.

Sut y caf fy asesu?

Mae pob modiwl yn cynnig cyfle i chi ddangos cymhwysiad i ymarfer yn eich arbenigedd/proffesiwn clinigol. Mae'r modiwlau'n cynnig cyfle i fesur datblygiad proffesiynol ac academaidd.

Mae'r gwahanol ddulliau asesu ar draws pob modiwl yn cynnwys datblygu cynigion ymchwil, myfyrdodau beirniadol ac astudiaethau achos myfyriol, aseiniadau â ffocws beirniadol, datblygu a gwerthuso ymyriadau (yn seiliedig ar ymarfer), cyflwyniadau llafar, sesiynau addysgu/dysgu wedi'u hwyluso, cynhyrchu adroddiad ar adolygiad systematig, gweithredu a/neu werthuso prosiect (gwella ansawdd) yn y gwaith, a chwblhau portffolio o dystiolaeth o arfer lefel uwch.

Sut y caf fy nghefnogi?

  • Byddwn yn eich cefnogi: Bydd gennych gymorth academaidd a byddwch yn cael tiwtor personol drwy gydol eich astudiaethau gyda ni.
  • Mae pob modiwl yn y rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd ar Ddysgu Canolog, lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau'r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Fel rheol, mae darlithoedd yn cael eu recordio trwy amrywiaeth o lwyfannau electronig, ac maen nhw ar gael i chi eu gweld trwy gydol eich cwrs.
  • Mae'r brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
  • Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu ichi gyrchu gwasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o'r siop apiau.

Dyma rai o'i nodweddion:

  • Mapiau o'r campws
  • Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
  • Amserlen myfyrwyr
  • Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
  • Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Newyddion i fyfyrwyr
  • Derbyn hysbysiadau pwysig
  • Dolenni i lansio apiau eraill y brifysgol, fel Outlook (ar gyfer e-bost) a'r bwrdd du (ar gyfer Dysgu Canolog).
  • Dolenni i apiau a argymhellir fel Next Bike, i'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch profiad fel myfyriwr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau rhaglen yr MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Gwerthuso'n feirniadol y dystiolaeth a'r llenyddiaeth a damcaniaethau sy'n seiliedig ar ymarfer, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd i'ch meysydd ymarfer arbenigol.
  • Gwerthuso'n feirniadol a chymhwyso theori ymarfer uwch ac estynedig i ddatblygiad arweinyddiaeth, addysg, polisi iechyd, diogelwch cleifion ac asesu risg, gwella gwasanaethau, a datblygiadau sy'n ymwneud â'ch maes ymarfer penodol.

Sgiliau Deallusol:

  • Arddangos dull beirniadol a systematig o chwilio am dystiolaeth gyfredol, ymchwil, a datblygiadau gwella gwasanaethau/ansawdd.
  • Datblygu a dangos dull cwestiynu beirniadol, dadansoddol a chanolbwyntiedig yn seiliedig ar y dystiolaeth gyfredol, a chymhwyso hyn at wneud penderfyniadau proffesiynol ac ymreolaethol i ddatblygu dadl gydlynol a pharhaus.
  • Mynegi dealltwriaeth feirniadol o'r problemau cymhleth sy'n gysylltiedig ag ymarfer uwch ac estynedig.
  • Dangos y gallu i ddatrys problemau a datblygu atebion yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn, gan alluogi datblygu a gwella gwasanaethau yn y maes.
  • Arddangos agwedd fyfyriol feirniadol ac annibynnol tuag at eich ymarfer eich hun ac ymarferion unigolion a thimau eraill, gan ddadansoddi sefyllfaoedd i ddatblygu dulliau arloesol o ymarfer uwch ac estynedig.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Nodi atebion cyd-destunol i broblemau, gan alluogi datblygu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.
  • Dangos y gallu i werthuso'n feirniadol strategaethau cyfathrebu a ddefnyddir i gyfleu a lledaenu gwybodaeth i'r claf, grwpiau cleientiaid, teuluoedd, a'r tîm rhyngbroffesiynol.
  • Gwerthuso'r arfer cyfredol yn feirniadol i hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol yn unol â gofynion y corff proffesiynol, statudol a rheoliadol (lle bo hynny'n berthnasol).

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Gwerthuso'n feirniadol ffynonellau tystiolaeth ymarfer uwch ac estynedig.
  • Cymhwyso a syntheseiddio theori uwch ac estynedig i ymarfer proffesiynol.
  • Arddangos datrys problemau ar lefel unigol a/neu ddylanwadu ar wneud penderfyniadau fel rhan o dîm.
  • Parchu safbwyntiau eraill, gan gymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am eich dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol eich hun, a chydnabod anghenion datblygiadol eich tîm.
  • Arddangos rheolaeth amser effeithiol.
  • Gweithio'n annibynnol ac o fewn ac ar draws timau.
  • Cwrdd â therfynau amser asesu rhaglenni.
  • Cyfleu a lledaenu gwybodaeth yn glir ac yn eglur.
  • Arddangos cymhwysedd mewn llythrennedd digidol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig, gallwch ddefnyddio'r arbenigedd a'r sgiliau a ddatblygwyd ar y cwrs MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch i wella'r gofal, yr arweinyddiaeth, yr addysgu a'r cymorth ar sail tystiolaeth rydych chi'n eu darparu.  Bydd y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy y byddwch chi'n eu datblygu yn eich galluogi i arallgyfeirio, ehangu a gwella'ch perfformiad. Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich ymarfer yn eich rôl bresennol, a bydd yn cynnig sefyllfa gadarn i chi wneud cais am ddyrchafiad neu rolau a heriau newydd gyda gwell hyder ac arbenigedd.

Mae cyn-fyfyrwyr blaenorol rhaglen yr MSc Ymarfer Uwch wedi nodi bod y rhaglen wedi eu helpu i ymgeisio am heriau a rolau newydd, ac i ddatblygu yn eu rolau presennol. 

Mae cyn-fyfyrwyr y rhaglen gyfredol wedi mynd ymlaen i wneud y canlynol:

  • Dod yn gymrawd Comisiwn Bevan
  • Cyhoeddi adolygiadau systematig
  • Diogelu rolau darlithio mewn addysg uwch
  • Sicrhau rolau uwch-reolwyr o fewn gwasanaethau'r GIG
  • Dod yn Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
  • Dod yn Ddarlithydd Cyswllt
  • Dod yn Gydymaith Ymchwil

Lleoliadau

Bydd angen i chi fod yn gweithio mewn amgylchedd gofal iechyd i ymgymryd â modiwl traethawd hir Portffolio Ymarfer Gofal Iechyd Uwch.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, byddai angen i chi fod â chofrestriad cyfredol gyda Chyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio yn y DU, a bod wedi sicrhau lleoliad clinigol perthnasol i gefnogi'ch dysgu ar gyfer y modiwl hwn.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.