Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi integreiddio fferyllwyr i'r cymysgedd o sgiliau gofal sylfaenol

Mae yna brinder meddygon teulu ac mae nyrsys practis yn gadael meddygfeydd hefyd. Mae hyn yn arwain at system gofal sylfaenol sy'n ei chael hi'n anodd cwrdd â phwysau ychwanegol sy'n codi o boblogaeth sy'n heneiddio â chyflyrau cronig cynyddol. Un strategaeth i fynd i'r afael â'r her hon yw integreiddio fferyllwyr i’r gymysgedd o sgiliau mewn meddygfeydd teulu.

Mae ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd gan dîm CUREMeDE (y Gwerthusiad o Rhaglen Cyn Cofrestru Aml-sector ar gyfer Fferyllwyr a Gwerthuso Rhaglen Hyfforddi Pontio ar gyfer Fferyllwyr sy'n Symud i Leoliadau Meddygfeydd Teulu) wedi tynnu sylw at y fantais o hyfforddi fferyllwyr yn ffurfiol mewn meddygfeydd. Fodd bynnag, nid oes gan dimau meddygfeydd ddealltwriaeth o rôl y fferyllydd a'u cwmpas ymarfer.

Er mwyn mynd i'r afael â'r angen hwn, rydym yn cynnal prosiect newydd a fydd yn rhoi cipolwg ar yr astudiaethau blaenorol hyn o fferyllwyr a'u hyfforddwyr, ac yn cydweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i nodi technegau effeithiol ar gyfer integreiddio fferyllwyr yn llwyddiannus i'r cymysgedd sgiliau mewn meddygfeydd.

Drwy ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth gyda thimau mewn meddygfeydd amrywiol, byddwn yn dylunio, creu a lledaenu pecyn cymorth aml-gyfrwng. Cynlluniwyd hwn i gynyddu parodrwydd timau meddygfeydd i integreiddio fferyllwyr yn eu cymysgedd sgiliau ac yn cyd-fynd â pharodrwydd fferyllwyr sy'n dod i mewn i'r amgylchedd hwn. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cael ei ddosbarthu'n eang i randdeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau trwy nifer o ddigwyddiadau ffurfiol.

Rhagwelir y byddwn nid yn unig yn cynyddu parodrwydd ymhlith rhanddeiliaid perthnasol, ond yn y tymor hwy, bydd ein gweithgareddau'n helpu tuag at leihau pwysau ar dimau mewn meddygfeydd. Bydd hyn yn galluogi gwell defnydd o'r gymysgedd sgiliau mewn meddygfeydd ac yn gwella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrArloesedd i Bawb, Prifysgol Caerdydd