Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn cymorth i fferyllwyr ar gael nawr

4 Tachwedd 2022

Illustration by Laura Sorvala (www.laurasorvala.com)

Y mis hwn, lansiodd CUREMeDE ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) becyn cymorth ar-lein a ddatblygwyd ar y cyd i gefnogi timau mewn meddygfeydd teuluol i integreiddio fferyllydd yn rhan o’u darpariaeth.

Crëwyd y pecyn cymorth mewn ymateb i’r ffaith bod fferyllwyr yn cael eu hintegreiddio’n gynyddol mewn meddygfeydd teuluol i helpu i leddfu’r pwysau cynyddol a wynebir gan y GIG a meddygon teulu).

Mae ymchwil ddiweddar CUREMeDE wedi amlygu manteision hyfforddiant ffurfiol i fferyllwyr mewn meddygfeydd teuluol ond mae hefyd wedi tynnu sylw at ddiffyg dealltwriaeth mewn meddygfeydd teuluol o rôl a chwmpas ymarfer y fferyllydd.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, fe wnaethom gynnal cyfres o ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth gyda staff meddygfeydd teuluol a fferyllwyr i ystyried eu barn a’u profiadau o rôl y fferyllydd sy’n ehangu.

Fe wnaeth ein canfyddiadau lywio’r gwaith o ddatblygu pecyn cymorth i gynnig dull cam wrth gam i helpu timau a fferyllwyr mewn meddygfeydd teuluol i wneud y defnydd gorau posibl o’r cymysgedd o sgiliau a gynigir.

Ar ôl defnyddio'r pecyn cymorth, bydd defnyddwyr yn gallu:

  • Disgrifiwch rôl y fferyllydd mewn meddygfa deulu a'r manteision y maent yn gallu eu cynnig
  • Nodi'r fferyllydd mwyaf addas ar gyfer eu meddygfa
  • Cynllunio sut i wneud y defnydd gorau o’u fferyllydd a’u cefnogi er budd y feddygfa yn gyffredinol
  • Disgrifio technegau ar gyfer darbwyllo cleifion o werth ymgynghori â fferyllydd

Mae'r pecyn cymorth ar gael am ddim ar-lein.

Byddem wrth ein bodd yn cael eich adborth, felly cysylltwch ar bob cyfrif!

Rhannu’r stori hon