Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen sylfaenol i fferyllwyr yng Nghymru

Mae tîm o Aberdeen, wedi’i ariannu gan Addysg GIG yr Alban (NES), yn gwerthuso eu rhaglen hyfforddiant sylfaenol i fferyllwyr yn yr Alban.

Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i roi ystod gyffredinol o sgiliau fferyllol craidd i fferyllwyr sydd newydd gymhwyso. Mae Cymru’n mabwysiadu’r un model (ac adnoddau) i gyflwyno rhaglen sylfaenol i fferyllwyr yng Nghymru. Rydym yn cydweithio â’r tîm o Aberdeen er mwyn gwerthuso rhaglen Cymru, gan ddilyn yr un protocol â’r un a ddefnyddir yn yr Alban.

Ein nod yw sefydlu:

  • sut mae’r rhaglen yn cyfrannu at ddatblygiad fferyllwyr proffesiynol?
  • ydy’r rhaglen yn diwallu anghenion y fferyllwyr a’u tiwtoriaid addysgiadol?
  • ydy ymatebion i’r rhaglen yn newid dros amser?
  • sut gellir gwella’r rhaglen?
Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW)