Ewch i’r prif gynnwys

Model 1+2 Cymru ar gyfer Hyfforddi Meddygon Teulu

Nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso ‘model 1+2’ o hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru.

Fel arfer, mae hyfforddiant arbenigol meddygon teulu yn cymryd tair blynedd, gyda hyfforddeion yn ymgymryd â 18 mis mewn ymarfer cyffredinol a 18 mis mewn ysbytai. Ym mis Awst 2020, cyflwynwyd model newydd o hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu yng Nghymru, lle mae hyfforddeion yn ymgymryd â dwy flynedd o ymarfer cyffredinol ac un flwyddyn mewn ysbyty (model 1+2).

Drwy ddefnyddio data a gesglir gan grwpiau ffocws ac arolygon, nod ein hastudiaeth yw adrodd am:

  • safbwyntiau hyfforddeion a hyfforddwyr o fanteision (ac anfanteision) treulio cyfran fwy o amser mewn ymarfer cyffredinol yn hytrach na lleoliadau ysbyty, yn eu tyb nhw
  • safbwyntiau hyfforddeion a hyfforddwyr o leoliadau ysbyty a ffefrir, ac amseru profiadau gofal eilaidd o fewn cynllun hyfforddiant tair blynedd
  • gwelliannau ymhellach y gellir eu gwneud i’r rhaglen er mwyn gwella dysgu a pharatoi ar gyfer ymarfer cyffredinol
Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW)