Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu Sgiliau Fferyllwyr wrth Gynllunio Gweithlu: Gwerthusiad o Brosiect Cynllunio Gweithlu Fferyllol

Mae cynllunio gweithlu strategol wrth wraidd cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd.

Nod Prif Fferyllwyr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yw rhoi sgiliau cynllunio gweithlu i fferyllwyr er mwyn eu galluogi i gynllunio gwasanaethau’n well ar draws pob un o sectorau’r GIG.

Amcanion penodol yr astudiaeth hon yw ystyried ac adrodd am:

  • a yw’r fferyllwyr sy’n cymryd rhan yn rhoi’r ymarfer cynllunio chwe-cham ar waith, a sut
  • a oes effaith ganfyddadwy ar drawsnewid gwasanaethau fferylliaeth drwy ddefnyddio’r dull cynllunio gweithlu
  • beth sydd angen ei newid i wella deilliannau
  • sut gallai dysgu o’r enghraifft hon gael ei ddefnyddio gan grwpiau proffesiynol eraill.

Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar ddata o gyfweliadau un-i-un a thrafodaethau grŵp ffocws.

Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW)