Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni dysgu i ddeintyddion - astudiaeth beilot

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ymgysylltiad rhai deintyddion â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Er bod rhagor o gyfleoedd addysgol ar-lein wedi codi o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19, mae pryder ynghylch effaith gyfredol a hirdymor y pandemig ar hyder ymarferwyr.

Mae cynlluniau addysgol newydd sy’n cael eu treialu gan Addysg Iechyd Lloegr (HEE) Dwyrain Canolbarth Lloegr, mewn partneriaeth ag Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain (UCHL) Eastman, yn ceisio adennill hyder ymysg deintyddion i ddysgu, eu hysgogi i ddal ati i ddysgu a rhoi’r hyn maent wedi’i addysgu ar waith.

Mae ysgolion deintyddol yn aml yn ganolfannau ar gyfer dysgu ac, er nad oes ysgol ddeintyddol yn nwyrain canolbarth Lloegr, mae cysylltiadau cynhyrchiol wedi’u sefydlu gydag UCLH (Eastman), ac mae cyfres o bum rhaglen addysgol yn cael eu treialu.

Er bod pob un o’r rhaglenni hyn yn unigryw, maent yn gweithredu o dan yr un egwyddorion cyffredinol sy’n pwysleisio egwyddorion dysgu i oedolion, dull sy’n rhoi’r dysgwr yn gyntaf, integreiddio dysgu a’i gymhwyso’n rhan o ymarfer bob dydd, a myfyrio.

Diben ein hymchwil fydd cynnal adolygiad a gwerthusiad annibynnol o’r gyfres hon o gynlluniau addysgol. Yn benodol, byddwn yn:

  • Adolygu ansawdd y rhaglenni, gan nodi a gafodd deilliannau dysgu eu cyflawni ac a fu unrhyw ddeilliannau anfwriadol.
  • Edrych ar sut caiff y dysgu ei gymhwyso mewn ymarfer yn y gweithle, gan ddyfeisio a threialu dulliau o ddangos tystiolaeth o effaith hirdymor
  • Cynghori ar sut gellir gwella’r rhaglenni
  • Asesu awydd cynfyfyrwyr i ddysgu gydol oes a’u diddordeb mewn bod yn hyrwyddwyr rhaglenni neu fentora pobl eraill
Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrAddysg Iechyd Lloegr