Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant fferylliaeth aml-sector cyn-cofrestru

various tablets and a gloved hand

Rydym wedi ymgymryd â chyfres o werthusiadau o hyfforddiant fferylliaeth cyn-cofrestru.

Dechreuodd y gwerthusiad cyntaf yn 2016/17 pan gyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) raglen hyfforddiant integredig cyn-cofrestru newydd. Roedd y rhaglen hon yn cynnig profiad mewn ysbytai a lleoliadau gofal cymunedol a sylfaenol, a chafodd ei gwerthuso gan Bethan Broad.

Roedd canlyniadau o'r gwerthusiad yn arddangos bod fferyllwyr a gynhaliodd y rhaglen aml-sector yn gwerthfawrogi'r profiad a byddent yn dewis yr opsiwn hwn eto. Serch hynny, roedd ganddynt argymhellion ar gyfer gwelliannau. O'r materion pwysicaf oedd strwythur y rhaglen hyfforddiant a chylchdroadau hyfforddeion o gwmpas ysbytai a lleoliadau gofal cymunedol a sylfaenol.

O ystyried yr adborth cadarnhaol ac adeiladol am y rhaglen aml-sector gan hyfforddeion, tiwtoriaid a rheolwyr llinell, mae lle i symud i hyfforddiant aml-sector model unigol; gyda chwricwlwm a model diffiniedig (o ran cylchdroadau rhwng lleoliadau). Mewn ymateb i hyn, datblygwyd cwricwlwm newydd ond nid yw wedi'i brofi eto. Mae dau Fwrdd Iechyd wedi'u recriwtio i dreialu'r cwricwlwm a bydd y ddau'n ei roi ar waith o dan model wahanol:

  • Model 3 x 4 mis: bydd hyfforddeion yn cyflawni blociau 4 mis o gylchdroadau yn y tri sector, mewn trefn.
  • Model 2(3 x 2 fis): bydd hyfforddeion yn cyflawni blociau 2 fis o gylchdroadau yn y tri sector yn ystod y chwe mis cyntaf ac yna'n ailymweld â phob sector ar gyfer ail gylchdro 2 fis o hyd yn ail hanner y flwyddyn.

Prif nod y llif gwerthuso presennol yw ystyried dichonoldeb y cwricwlwm hwn a ddatblygwyd yn ddiweddar ac addasrwydd y ddau fodel. Mae ein hamcanion penodol yn driphlyg:

  1. I geisio barn hyfforddeion ar y ddau fodel, a barn eu tiwtoriaid ar ddichonoldeb cyflawni canlyniadau'r cwricwlwm a pha mor dda y mae'r hyfforddeion wedi paratoi ar gyfer ymarfer (h.y. a yw'r cwricwlwm yn addas at y diben?).
  2. I gymharu canfyddiadau o'r ddau fodel, gan nodi a oes well gan hyfforddeion un strwythur na'r llall a/neu yw un strwythur yn hwyluso'r gwaith o gyflawni'r canlyniadau arfaethedig yn well.
  3. I gymharu'r canlyniadau â chanfyddiadau o wahanol garfanau.
Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW)