Ewch i’r prif gynnwys

Model cyflwyno diwygiedig ar gyfer rhaglen hyfforddi fferyllwyr ôl-Sylfaen

Yn 2021, dechreuodd CUREMeDE ymchwil ragarweiniol i’r rhaglen ôl-Sylfaen newydd trwy gynnal arolwg ar-lein i gasglu barn rhanddeiliaid (gan gynnwys fferyllwyr dan hyfforddiant, fferyllwyr a chyflogwyr) am raglen o’r fath a’i model cyflawni.

Datgelodd canfyddiadau’r arolwg fod cymorth seiliedig ar ymarfer a phrofiad galwedigaethol yn elfennau hollbwysig o raglen ar ddechrau gyrfa i fferyllwyr a bod yn rhaid i raglen o’r fath gynnig cyfleoedd cyfartal a theg i bob fferyllydd, waeth beth fo’r sector a’r cyflogwr.

Mae canfyddiadau o’r fath yn cynnig cyd-destun hanfodol ar gyfer cyflwyno’r safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol newydd ar gyfer fferyllwyr (safonau IETP) i sicrhau nad yw’r gweithlu presennol o fferyllwyr cymwys yn cael eu gadael ar ôl. Mewn ymateb i ganlyniadau’r arolwg, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi dyfeisio rhaglen ôl-Sylfaen newydd sydd wedi’i dylunio i sicrhau bod fferyllwyr sydd wedi’u cofrestru’n ddiweddar yn cael cyfleoedd digonol i wella a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a chadw i fyny â’r dirwedd fferylliaeth gyfnewidiol.

Mae’r rhaglen ôl-Sylfaen yn ymestyn dros ddwy flynedd ac yn rhoi cyfleoedd i fferyllwyr ddatblygu eu hyder a’u cymhwysedd trwy gymorth pwrpasol gan ymarferwyr profiadol ac addysgu o brifysgol. Mae’r fferyllwyr yn cael cymorth gan oruchwyliwr addysgol (a drefnir drwy’r brifysgol) a goruchwyliwr ymarfer (a drefnir drwy AaGIC a chyflogwr y fferyllydd).

Dechreuodd y garfan gyntaf ym mis Medi 2022 ac mae’n cynnwys tua 35 o fferyllwyr o ysbytai, lleoliadau cymunedol a meddygfeydd teuluol. Yr Ysgol Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n darparu'r gydran a addysgir.

Bydd yr astudiaeth hon yn gwerthuso gweithrediad y rhaglen ôl-Sylfaen newydd hon, a sut mae'n cefnogi fferyllwyr i ddatblygu eu cymhwysedd a'u hyder.

Prif gyswlltSophie Bartlett
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW)