Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant Sylfaenol Hydredol Integredig

Mae'r model Hyfforddiant Sylfaenol Hydredol Integredig (LIFT) yn darparu profiad i ymarfer cyffredinol drwy gydol yr hyfforddiant Sylfaenol.

Gall modelau amrywio, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys diwrnod neu wythnos mewn lleoliad ymarfer cyffredinol, gyda gweddill yr wythnos yn cael ei dreulio mewn lleoliadau gofal eilradd. Mae modelau wedi cael eu peilota mewn rhanbarthau gwahanol gyda chanlyniadau addawol.

Cafodd LIFT ei gyflwyno yng Nghymru fis Awst 2020, gyda nifer fechan o feddygon F1.

Amcanion penodol yr astudiaeth yw adrodd am:

  • bersbectifau goruchwylwyr ar fanteision a heriau LIFT, gan gynnwys archwilio materion gweithredu a gwasanaeth
  • persbectifau hyfforddeion ar y manteision a heriau posibl LIFT, archwilio effaith ar lwybrau gyrfa, datblygu sgiliau a dealltwriaeth o'r rhyngwyneb gofal sylfaenol-eilradd
  • cymharu canlyniadau hyfforddeion rhaglen LIFT gyda chanlyniadau hyfforddeion sy'n dilyn rhaglen draddodiadol.
Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW)