Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau fferylliaeth glinigol ar gyfer fferyllwyr israddedig

Ers 2016, mae CUREMeDE wedi arwain ar werthuso carfanau lluosog sy’n gwneud hyfforddiant amlsector ar gyfer fferyllwyr Sylfaen (fferyllwyr cyn-gofrestru gynt). Ynghlwm wrth ygwerthusiad hwn mae dilyniant hydredol o'r unigolion hyn o fod yn hyfforddai i’r flwyddyn ar ôl cofrestru. Ynghlwm wrth y gwerthusiad roedd casglu barn yr hyfforddeion, y goruchwylwyr, yr arweinwyr addysg a hyfforddiant a’r rheolwyr llinell presennol.

Yn sgil y canfyddiadau, canfuwyd nifer fawr o fanteision allweddol yn y rhaglen amlsector ond tynnwyd sylw at yr anfantais yn sgil lleihau’r amser a dreulir mewn unrhyw un sector o’i gymharu â modelau un sector. Mae canfyddiad o'r fath o blaid cyflwyno lleoliadau clinigol yn gynharach yn yr hyfforddiant er mwyn i’r hyfforddeion fod yn gyfarwydd â'r lleoliadau yn gynt a gellir defnyddio eu blwyddyn Sylfaen yn fwy effeithiol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Fferylliaeth Cymru (Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe) i gynyddu nifer y lleoliadau dysgu drwy brofiad a chlinigol sy’n rhan o’r radd MPharm pedair blynedd cyn y flwyddyn Sylfaen. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau ar draws sectorau fferylliaeth gwahanol: y gymuned, yr ysbyty ac ymarfer cyffredinol.

Bydd cyflwyno lleoliadau clinigol yn rhan o’r radd MPharm yn rhoi profiadau i fyfyrwyr MPharm na fyddent wedi eu cael o'r blaen tan eu blwyddyn Sylfaen (ar ôl cwblhau'r radd MPharm pedair blynedd). Mae’r lleoliadau hyn yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr fferylliaeth a rhennir y rhain yn ddau gam. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, dim ond myfyrwyr y 3edd a’r 4edd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd fydd yn ymgymryd â’r lleoliadau hyn. Yn 2023/24, bydd y lleoliadau’n cael eu hymestyn i bob myfyriwr ym mlynyddoedd 1 i 4 ym Mhrifysgol Caerdydd a hefyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd yr astudiaeth hon yn gwerthuso’r ffordd y caiff lleoliadau clinigol eu rhoi ar waith yn y radd MPharm ac yn trin a thrafod y broses o brofi cysyniad rhoi Gweithgareddau Proffesiynol Ymddiriedadwy (EPA) ar waith yn ystod y cyfnod cynharach hwn o addysg a hyfforddiant fferyllwyr. Bydd yr astudiaeth hon yn trin a thrafod safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid perthnasol eraill gan gynnwys y safleoedd cynnal lleoliadau, staff y brifysgol, arweinwyr y lleoliadau ac arweinwyr AaGIC.