Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Yn Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwilio a Gwerthuso mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE), rydym yn cynnal ymchwil ryngddisgyblaethol ac yn gwerthuso addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd.

Sefydlwyd yr uned yn 2009 yn rhan o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac mae ein gwaith yn canolbwyntio ar effaith addysgiadol newidiadau mewn meysydd fel:

  • hyfforddiant sylfaenol ac arbenigol
  • datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu gydol oes
  • cymysgedd o sgiliau a dyletswyddau estynedig
  • technoleg i ategu dysgu
  • dysgu ac asesu yn y gweithle
  • rhoi gwybodaeth ar waith
  • safonau ar gyfer addysgwyr gofal iechyd

Rydym yn deall y cysylltiadau rhwng ymchwil, addysg a gofal iechyd ac yn barhaus, rydym yn cyflawni amrywiaeth eang o brosiectau gwerthuso, gan gadw at amserlenni tynn yn aml.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd lledaenu gwybodaeth, ac mae gennym hanes cryf o gyflwyno ein gwaith yng Nghymru, y DU, Ewrop ac ar draws y byd, drwy roi cyflwyniadau yn UDA, Canada, Awstralia a Taiwan.

Mae gennym nifer sylweddol o gyhoeddiadau ac allbynnau o ansawdd uchel.

Ein nodau

  • Meithrin rhwydweithiau o gydweithwyr rhyngddisgyblaethol a fforwm ar gyfer trafod ymchwil - Rydym wedi gweithio ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a sefydliadau iechyd eraill ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol ers i ni ddechrau yn 2009 ac wedi meithrin rhwydwaith eang o bartneriaid a chysylltiadau.
  • Gwneud yn siŵr bod canfyddiadau gwaith ymchwil a gwerthuso’n cael eu trosglwyddo i ymarfer - Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhoi gwybodaeth ar waith. Rydym yn lledaenu gwybodaeth yn ffurfiol drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau cynhadledd a chyhoeddiadau.  Fel canolfan, rydym wedi chwilio am ffyrdd newydd o ledaenu ein canfyddiadau i gynulleidfa ehangach hefyd, gan gynnwys delweddu canfyddiadau drwy ffeithluniau a fideos bwrdd gwyn.
  • Cynhyrchu allbynnau o ansawdd uchel sy’n cyfrannu at wella datblygiad addysgiadol gweithwyr iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
  • Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o staff ymchwil drwy leoliadau i fyfyrwyr a goruchwylio prosiectau.

Mesur llwyddiant

  • ennill cyllid ymchwil
  • cyflawni prosiectau gwerthuso ac ymchwil ar y cyd
  • trosi canfyddiadau’n ymarfer ac yn gyhoeddiadau
  • cynnig profiadau i ymchwilwyr newydd ddatblygu