Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant Eang

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Yn 2017 gwnaethom gwblhau gwerthusiad tair blynedd o'r rhaglen hyfforddiant eang (BBT).

Y casgliadau allweddol oedd bod y rhaglen wedi datblygu hyfforddeion sy'n dod â phersbectif ehangach i ofal iechyd, yn hyrwyddo integreiddio arbenigedd, yn mabwysiadu dulliau cyfannol sy'n rhoi gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, yn gallu rheoli cleifion â chyflyrau cymhleth, ac sydd ag argyhoeddiad yn eu dewis o yrfa.

Mae datblygu meddygon fydd yn mynd i weithio yn y system gofal eilaidd, yn cael ei gydnabod fel ffordd bwysig o fynd i'r afael â demograffeg sy’n newid o gleifion (yn enwedig y cynnydd mewn cydafiachedd) sy'n dwysáu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Er i'r rhaglen ddod i ben wedi hynny, mae'r agenda cyffredinol wedi dod yn fwy amlwg ac er mwyn diwallu anghenion cleifion y dyfodol, mae angen i'r gweithlu meddygol feddu ar sgiliau cyffredinol.

Pwrpas y gwaith hwn yw cynnal astudiaeth hydredol ddilynol o holl hyfforddeion y rhaglen a gymerodd ran yn y gwerthusiad gwreiddiol a nodi pa yrfaoedd y gwnaethant eu dilyn yn y pen draw. Beth yw eu rôl bresennol a faint wnaeth y rhaglen ddylanwadu ar eu penderfyniadau o ran gyrfa a'u hargyhoeddiad?

Rydym hefyd am nodi sut mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn edrych ar ddyfodol cyffredinoliaeth yn y gwasanaeth iechyd

Rhagor o wybodaeth am ein hastudiaeth wreiddiol.

Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrAddysg Iechyd Lloegr