Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi fferyllwyr sy'n pontio i ofal sylfaenol

pharmacist looking at pill bottle

Mae Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth AaGIC) wedi creu rhaglen hyfforddiant newydd i gefnogi fferyllwyr sy'n symud i weithio mewn lleoliad meddyg teulu.

Nod y fenter yw rhoi cefnogaeth bwrpasol i'r fferyllwyr hyn sy'n ymgymryd â'r rolau hyn gyda phrofiad blaenorol amrywiol mewn lleoliadau gwahanol. O ganlyniad, mae eu hanghenion cymorth yn amrywio.

Bydd y rhaglen bontio'n cael ei chynnal dros gyfnod o 12 mis ac mae'n rhoi 24 diwrnod o gefnogaeth gan diwtor i bob fferyllydd. Bydd y tiwtor yn fferyllydd mewn meddygfa profiadol sy'n gymwys i fod yn diwtor.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y fframwaith cymhwysedd ar gyfer fferyllwyr sy'n gweithio mewn meddygfeydd, a gymeradwywyd gan y Gymdeithas Fferyllol Brenhinol. Bydd y fferyllwyr ar y cynllun hwn yn cyflawni hunan-asesiad dan y fframwaith cymhwysedd yn ystod mis 3, 6 a 12, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio eu hanghenion hyfforddiant.

Ymhlith y gweithgareddau eraill mae treulio amser yn fferyllfa'r tiwtor, a thrafod gyda'r tiwtor meddyg teulu penodol. Defnyddir e-bortffolio i ddogfennu'r hunan-asesiadau, adborth ar sail gweithle gan adborth 360-gradd ac er mwyn cofnodi eu tasgau a sgiliau.

Nodau

Prif nod y gwerthusiad hwn yw gwerthuso'r rhaglen hyfforddiant pontio, gan nodi cryfderau a meysydd i'w gwella, ac adnabod os yw'n helpu fferyllwyr i baratoi ar gyfer rôl mewn meddygfa, a sut.

Dyma'r amcanion penodol:

  • nodi cymhellion y cyfranogwyr dros symud i'r lleoliad newydd a'u targedau ar gyfer y dyfodol.
  • dogfennu anghenion dysgu pob cyfranogwr, gan nodi'r elfennau cyffredin a'r gwahaniaethau.
  • archwilio barn cyfranogwyr am y gefnogaeth gan diwtoriaid, yr e-bortffolio a gweithgareddau addysgol eraill i weld a yw'r rhain yn mynd i'r afael â'r anghenion dysgu.
  • ceisio barn tiwtoriaid y fferyllwyr am y rhaglen, ei chryfderau a'i chyfyngiadau ac unrhyw anghenion datblygu allai fod ganddynt ar gyfer y rôl.
Prif gyswlltAlison Bullock
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth AaGIC)