Ewch i’r prif gynnwys

Peilot amser gwarchodedig (cam 2)

Gweithwyr proffesiynol hollbwysig yw fferyllwyr yn y system gofal iechyd. Mae eu gwaith yn bythol newid, ac maen nhw'n cael mwyfwy o gyfrifoldebau. Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i fferyllwyr yn helpu i sicrhau eu bod yn dal yn gyfuwch â'u rolau newydd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes darpariaeth ar gyfer DPP yng nghytundeb y GIG i fferyllwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol.

Yn ddiweddar, gwerthusodd tîm CUREMeDE raglen amser a neilltuir a oedd yn golygu bod fferyllwyr yn gallu cael gafael ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu yn ogystal â chyllid i dalu am staff absennol wrth ddarparu gwasanaethau. Un o ganfyddiadau'r astudiaeth hon oedd bod llawer o fferyllwyr a oedd yn defnyddio cynllun amser a neilltuir yn Rhagnodwyr Annibynnol (IP) a’u bod yn defnyddio'r amser i ehangu cwmpas eu hymarfer a rhoi gwasanaethau ychwanegol yn eu fferyllfa.

Diben yr ail gam hwn yn y rhaglen amser a neilltuir yw rhoi amser a neilltuir i fferyllwyr sy’n Rhagnodwyr Annibynnol yn unig, a hynny er mwyn cefnogi a/neu ehangu cwmpas eu hymarfer mewn fferyllfa gymunedol.

Mae amser a neilltuir yn cael ei gynnig i tua 30 o fferyllwyr sy’n Rhagnodwyr Annibynnol mewn dau Fwrdd Iechyd yng Nghymru. Bydd y fferyllwyr sy’n Rhagnodwyr Annibynnol yn gallu cael hyd at bum diwrnod o amser a neilltuir a phenderfynu ynghylch sut mae'r amser hwn yn cael ei ddefnyddio. Gall fferyllwyr sy’n Rhagnodwyr Annibynnol ofyn am fentor i'w cefnogi yn eu datblygiad, a chael defnyddio hefyd gyfres o adnoddau sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Bydd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i sut mae fferyllwyr sy’n Rhagnodwyr Annibynnol yn defnyddio eu pum diwrnod o amser a neilltuir ac effaith hyn ar gwmpas eu hymarfer a'u hyder wrth ddarparu gwasanaethau Rhagnodwyr Annibynnol.

Prif enw cyswlltSophie Bartlett
CyllidwrFferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth HEIW)