Ewch i’r prif gynnwys

Graddau arbenigol

Mae ymchwil ym maes cyfrifiadureg yn cael effaith gymdeithasol sylweddol ac uniongyrchol, sy’n gwneud addysg ôl-raddedig yn y ddisgyblaeth hon yn ddewis ysbrydoledig.

Abacws Specialist degrees

Yn y farchnad fyd-eang hynod gystadleuol sydd ohoni, gall ein graddau arbenigol eich rhoi ben ac ysgwydd uwchben ymgeiswyr eraill, gan y byddwch chi wedi dysgu’r wybodaeth arbenigol a’r sgiliau technegol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.

Mae nifer o’n rhaglenni ôl-raddedig yn rhoi’r opsiwn i chi ymgymryd â lleoliad gwaith 7-12 mis o hyd i’ch helpu i sicrhau mantais gystadleuol. Bydd y profiad ymarferol hwn nid yn unig yn rhoi hwb i’ch hyder, ond hefyd yn eich helpu i ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio eich sgiliau newydd yn y byd go iawn.

Gall addysg ôl-raddedig eich paratoi i astudio ar gyfer PhD neu ymuno â’r gweithlu, lle gallech chi gwrdd â chyn-fyfyrwyr sy’n gweithio ym meysydd datblygu meddalwedd, seiberddiogelwch a rhaglennu ar draws ystod o ddiwydiannau.

Cyfrifiadureg Uwch (MSc)

Mae’r rhaglen flaenllaw hon ar gyfer graddedigion ym maes cyfrifiadura sydd am amlygu eu hunain ymhellach drwy ddod yn feistr yn y maes.

Mae ein hamrywiaeth eang o fodiwlau dewisol sy’n cael eu harwain gan ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi greu eich portffolio unigryw eich hun o sgiliau, gan gynnwys arbenigo mewn meysydd fel systemau cymhleth, cyfrifiadura gweledol a pheirianneg data a gwybodaeth. Datblygwch eich sgiliau datrys problemau ymhellach drwy astudio paradeimau ac ieithoedd rhaglennu uwch.

Ewch ati i ysgrifennu traethawd hir unigol gyda chefnogaeth ein harbenigwyr academaidd a chwblhau prosiect ymchwil mawr y gallwch chi ei nodi ar eich CV.

Enw’r radd
MSc Cyfrifiadureg Uwch
MSc Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol

Peirianneg Meddalwedd

Mae’r rhaglen hon ar gyfer graddedigion o gefndiroedd amrywiol sydd â rhywfaint o brofiad o raglennu, a hynny er mwyn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn effeithiol yn beirianyddion meddalwedd fasnachol. Byddwch chi’n datblygu’n ymarferol gan ddefnyddio offer a thechnegau masnachol arloesol ac yn ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant mewn amgylchedd masnachol dynamig. Mae'r rhaglen 1-flwyddyn hon yn cael ei chyflwyno yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Enw’r radd
MSc Peirianneg Meddalwedd
MSc Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol

Seiberddiogelwch (MSc)

Mewn byd sy’n fwyfwy rhwydweithiol, mae risgiau seiber ar frig agendâu busnesau byd-eang. Mae prinder ymarferwyr medrus ym maes seiberddiogelwch ledled y byd yn golygu bod galw mawr am raddedigion sy’n deall y technolegau a’r arferion sy’n sail i systemau diogelwch.

Mae'r rhaglen hon, a ddatblygwyd gyda chymorth amrywiaeth o sefydliadau, yn cynnig cymysgedd o gyd-destun busnes a materion diogelwch, ymddiriedaeth a phreifatrwydd craidd sy'n herio'r sector TG.

Yn ein Labordy Seiberddiogelwch a Fforenseg, byddwch chi’n gallu ymchwilio i’r prif fygythiadau diogelwch sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol heddiw drwy wneud arbrofion ar ymosodiadau go iawn mewn senarios yn y byd go iawn.

Enw’r radd
MSc Seiberddiogelwch
MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg

Deallusrwydd Artiffisial (MSc)

Mae deallusrwydd artiffisial yn bwnc llosg ym maes cyfrifiadureg ac yn y gymdeithas ehangach. Mae’n dod yn fwyfwy amlwg yn ein bywydau bob dydd. Mae’n cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a meysydd ymchwil o’r radd flaenaf, fel canfod twyll, dadansoddi fforensig a chefnogi penderfyniadau meddygol.

Ar ein rhaglen newydd sbon, sydd wedi’i chyd-gynllunio gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes, byddwch chi’n ymchwilio i effeithiau moesegol a chymdeithasol deallusrwydd artiffisial a phynciau allweddol sy’n ysgogi tueddiadau a datblygiadau technolegol. Ymhlith y pynciau hyn mae dysgu peiriannol, rhesymu awtomataidd a chynrychioli gwybodaeth.

Byddwch chi’n astudio mewn lleoliad unigryw, wedi'i lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf yn y maes, gan ddefnyddio setiau data a phroblemau yn y byd go iawn i ddatblygu barn feirniadol, uniondeb deallusol a sgiliau ymarferol y mae galw mawr amdanyn nhw.

Enw’r radd
MSc Deallusrwydd Artiffisial
MSc Deallusrwydd Artiffisial gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol

Prosesu Iaith Naturiol (MSc)

Mae’r rhaglen hon, a gynlluniwyd gan arbenigwyr blaenllaw a byd-enwog yn y maes, yn datblygu set unigryw o sgiliau sy’n werthfawr mewn amrywiaeth o sectorau diwydiannol a/neu sy’n ddelfrydol ar gyfer gyrfa ymchwil ym maes deallusrwydd artiffisial.

Estyniad arbenigol i ddeallusrwydd artiffisial yw prosesu iaith naturiol. Mae’n ymdrin â’r data testun sy’n allweddol i gyfathrebu yn y 21ain ganrif. Mae'r rhaglen – sy’n cynnwys pedwar modiwl craidd, wyth modiwl opsiynol a thraethawd hir i orffen – yn cael ei chyflwyno mewn lleoliad unigryw gan ddefnyddio setiau data a phroblemau go iawn, lle bydd y myfyrwyr yn elwa o fewnbwn y diwydiant. Byddwch chi’n datblygu gallu technegol yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o effeithiau moesegol a chymdeithasol delio â data testun.

Enw’r radd
MSc Prosesu Iaith Naturiol