Ewch i’r prif gynnwys

Ein lleoliad

Dinas ysgogol, cosmopolitan a chlos ag oddeutu 350,000 o bobl yw Caerdydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae datblygiadau mawr wedi denu cymuned fusnes gynyddol, gan gynnwys nifer gynyddol o gwmnïau technoleg.

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi’i lleoli yn yr adeilad Abacws newydd a adeiladwyd yn bwrpasol. Mae yng nghanol y Brifysgol, nesaf at Undeb y Myfyrwyr a gerllaw’r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd a'r Campws Arloesedd. Nid yw’n bell iawn o ganol y dref. Mae wrth ymyl gorsaf rheilffordd Cathays, ac mae amrywiaeth o lety myfyrwyr gerllaw.

Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
CF24 4AG

Rhagor o wybodaeth am ein cyrraedd mewn car, ar y trên neu’r bws neu mewn awyren

School of Computer Sciences location map

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol

Gellir astudio ar gyfer BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gynhwysol yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, sydd yng nghanol canolfan dechnoleg gyffrous Casnewydd. Mae’n cymryd 12 munud i deithio o Gaerdydd i Gasnewydd ar y trên, ac mae’r Academi nesaf at orsaf rheilffordd Casnewydd.

Cyfeiriad

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol
Yr Orsaf Wybodaeth
Hen Adeilad yr Orsaf
Queensway
Casnewydd
NP20 4AX