Ewch i’r prif gynnwys

Graddau trosi

Mae ein amrywiaeth o raddau trosi – rhai gyda’r opsiwn o leoliad gwaith – wedi’u cynllunio ar gyfer graddedigion nad ydynt o gefndir cyfrifiadura, sydd am ddatblygu’r sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer rôl gyfrifiadura neu beirianneg meddalwedd.

Abacws Conversion degrees

Cyfrifiadura

Wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion sydd am symud i’r cwrs cyfrifiadur o ddisgyblaeth arall, mae’r rhaglen hon sy'n flwyddyn o hyd yn denu myfyrwyr o amrywiol yrfaoedd a meysydd pwnc sy'n dymuno ymgyfarwyddo â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn Datblygu Meddalwedd. Mae’r rhaglen MSc Cyfrifiadura yn rhoi’r cydbwysedd priodol i fyfyrwyr o’r sgiliau peirianneg meddalwedd a’r gallu technegol sydd eu hangen i ddatblygu systemau a meddalwedd effeithiol.

Enw’r radd
MSc Cyfrifiadura
MSc Cyfrifiadura gyda Lleoliad

Cyfrifiadura a Rheoli TG

Ar gyfer graddedigion sydd am symud i gyfrifiadureg o ddisgyblaeth arall. Mae'r rhaglen yn para blwyddyn ac yn cynnig gwybodaeth dechnegol eang a chyd-destun busnes cadarn ar gyfer rheoli systemau TG. Mae'r rhain yn ofynnol i fodloni anghenion sylfaenol yn y sector TG fel cynllunio prosiectau mawr neu wella prosesau busnes, ac maent yn hanfodol ar gyfer y rhai sydd am gael swydd reoli yn y sector TG.

Enw’r radd
MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG
MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG gyda Lleoliad