Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin sgiliau Cymru ar gyfer y dyfodol

A ninnau’n brifysgol fwyaf Cymru, byddwn yn croesawu ein rôl i gefnogi adferiad a arweinir gan sgiliau os bydd dirwasgiad ar ôl COVID-19.

Ar gyfer pobl ifanc

Rydym yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael pob cyfle i wireddu eu potensial waeth beth fo'u hamgylchiadau neu eu cefndir. Mae ein rhaglenni ehangu cyfranogiad ac allgymorth cymunedol yn canolbwyntio’n benodol ar y rheiny a dangynrychiolir mewn addysg uwch ac unigolion sydd wedi profi anfantais neu darfu addysgol. Rydym yn chwalu'r rhwystrau i addysg uwch ac yn cefnogi pobl ifanc trwy gydol eu taith addysgol.

Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion a cholegau ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc trwy gynnig llawer o adnoddau a gweithgareddau addysgol rhad ac am ddim i athrawon, ysgolion a cholegau mewn ystod o bynciau. Yn y cyfamser, mae ein Menter Llywodraethwyr Ysgol yn annog ac yn cefnogi staff prifysgolion ac aelodau o'n cynfyfyrwyr i gyfrannu eu sgiliau a'u harbenigedd i ysgolion trwy fod yn Llywodraethwyr Ysgol.

Students at work

Rydyn ni’n helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial

Rydyn ni’n cynnig ystod o raglenni er mwyn i bobl ifanc gael profiadau a chyfleoedd newydd sy’n eu hysbrydoli.

Female pupil looks at a bone at a table in an archaeology workshop

Adnoddau addysgol

Mae gennym ystod o adnoddau a gweithgareddau addysgol ar gyfer athrawon, teuluoedd a disgyblion ysgol o bob oed.

Ar gyfer oedolion

Mae ein rhaglen Cymraeg i Oedolion wedi’i chynnal ers dros 30 mlynedd, gan elwa ar ddysgwyr Cymraeg yn y gymuned yn ogystal â’n staff a’n myfyrwyr ein hunain.

Rydym yn cynnig ystod o raglenni astudio hyblyg yn ogystal â chyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus byr, gan gynnwys cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim, i ddatblygu sgiliau. Mae rhai cyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl mewn meysydd proffesiynol penodol, tra bod eraill yn ymdrin â sgiliau mwy cyffredinol a fydd yn werthfawr i ystod eang o bobl a chyflogwyr.

Two people looking at a computer screen

Datblygu proffesiynol

Cynigiwn gyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i wella eich sgiliau a rhoi’r wybodaeth a’r technegau diweddaraf i chi.

A woman reading a magazine in a cafe

Cyrsiau rhan amser i oedolion

Cyrsiau rhan amser yn y dyniaethau, ieithoedd, busnes, cyfrifiadura, gwleidyddiaeth a'r gyfraith, gwyddoniaeth a'r amgylchedd, ac astudiaethau cymdeithasol.