Hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru

Rydym yn falch o fod yn brifysgol yng Nghymru ac rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Mae'r iaith Gymraeg wrth wraidd ein hunaniaeth, ein gwaith, ein cymunedau a'n harferion o ddydd i ddydd, yn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi.
Yr Academi Iaith Gymraeg
Nod ein Academi Iaith Gymraeg y Brifysgol sydd newydd ei sefydlu yw cysylltu'r rheiny sy'n ymwneud â'r Gymraeg — yn y brifysgol ei hun ac yn ein cymunedau ehangach. Mae'r Academi yn adlewyrchu ein nod o fod yn sefydliad Cymreig â golwg fyd-eang, a hynny mewn dinas gosmopolitaidd a chyfeillgar, amlieithog ac amlddiwylliannol.
Bydd yr Academi yn dwyn ynghyd ac yn cydlynu ein staff yn eu hymdrechion parhaus i gysylltu â'r gymuned leol a chenedlaethol a chyfrannu ati. Mae ein haddysgwyr sy'n siarad Cymraeg yn trefnu sesiynau ar y cyd ag ysgolion ledled Cymru ac mae ein hacademyddion yn cyfrannu'n rheolaidd at drafodaethau cyhoeddus ac ym myd polisi ynghylch materion allweddol yng Nghymru.
Rydyn ni hefyd yn chwilio am gyfleoedd i hybu'r defnydd o'r iaith yn y ddinas. Un o'n prosiectau yn ddiweddar a gefnogwyd gan yr Academi oedd trefnu gwersi Cymraeg i siaradwyr Arabeg ym Mhafiliwn Grangetown — sef canolfan gymunedol a sefydlwyd gyda chefnogaeth prosiect ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, Porth Cymunedol Grangetown.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i gymryd rhan yn ein prosiectau sydd ar y gweill, cysylltwch â ni:
Yr Academi Gymraeg
Eisteddfodau a gwyliau yng Nghymru
Rydyn ni’n cymryd rhan amlwg mewn gwyliau allweddol yng Nghymru ac yn eu cefnogi, gan gynnwys partneriaethau ar y cyd ag Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, ennyn diddordeb ymwelwyr yn ein hymchwil a addysgu drwy sgyrsiau bywiog, trafodaethau a gweithgareddau ymarferol.
Gan fod gwyliau wyneb yn wyneb yng Nghymru wedi'u gohirio oherwydd pandemig COVID-19, rydyn ni wedi bod yn cynnal ystod o ddigwyddiadau a darlithoedd Cymraeg yn rhan o'r gwyliau hyn.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n gweithio gydag eisteddfodau a gwyliau yng Nghymru: