Ewch i’r prif gynnwys

Rydyn ni’n helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi disgyblion ysgol o bob oedran a chefndir i wireddu eu potensial.

Rydyn ni’n cynnig ystod o raglenni er mwyn i bobl ifanc gael profiadau a chyfleoedd newydd sy’n eu hysbrydoli. Drwy gael eu mentora yn ogystal â chyrsiau ac ymweliadau â’r campws, rydyn ni’n helpu disgyblion i ddysgu sgiliau newydd ac yn eu grymuso i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd addysg uwch ac sydd wedi bod o dan anfantais yn addysgol neu yr amharwyd ar eu haddysg. Rydyn ni’n cynnig rhaglenni pwrpasol sydd wedi cael eu llunio’n ofalus i chwalu'r rhwystrau y mae'r disgyblion hyn yn eu hwynebu yn ogystal â’u cefnogi yn ystod eu taith addysgol.

Ein rhaglenni

Dyfodol Hyderus

Rydyn ni’n helpu gofalwyr ifanc a phobl ifanc â phrofiad o ofal i gyflawni eu potensial.

Students at work

Rhaglen Camu 'Mlaen

Arfogi myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol gyda'r sgiliau i ffynnu mewn addysg uwch.

Students at work

Rhaglenni Sutton Trust

Rydyn ni’n helpu myfyrwyr i gyrchu cyrsiau prifysgol sy'n arwain at broffesiynau penodol.

Sioe Deithiol Addysg Uwch

Cyflwyniadau a gweithdai i ysbrydoli myfyrwyr ym mlynyddoedd 9 i 11.

Parent Power

Empowering parents to support their children’s future.

School pupils posing for a photo in a lecture theatre

Ymestyn yn Ehangach

Mynd i'r afael â rhwystrau i fynediad, dilyniant a llwyddiant ym myd addysg uwch.

Two people playing a dice rolling game at the Discovery summer school

Prosiect Darganfod

Mentora ar gyfer pobl ifanc â chyflyrau ar sbectrwm awtistiaeth.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni, ebostiwch ein tîm Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth:

Tîm Ehangu Mynediad