Ewch i’r prif gynnwys

Arwain adferiad gwyrdd Cymru

Mae pum gwirfoddolwr yn eu festiau gwelededd uchel yn gwenu ar y camera gan sefyll wrth ymyl y bagiau mawr llawn sbwriel y maent wedi'i gasglu.
Gwirfoddolwyr yn ymuno â grŵp casglu sbwriel cymunedol wedi’i drefnu gan ein Sefydliad Ymchwil Dŵr fel rhan o'u gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd

Rydyn ni’n helpu i greu dyfodol cynaliadwy drwy ychwanegu at y ffyrdd y mae pobl yn cysylltu o’r newydd â byd natur a'n planed.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd camau ym maes cynaliadwyedd, gan arwain drwy esiampl a gwella ein perfformiad amgylcheddol ein hunain. Rydyn ni’n creu dyfodol cynhwysol, cynaliadwy a gwydn a fydd yn esgor ar fuddiannau amgylcheddol yng Nghaerdydd a'r byd yn ehangach.

Rydyn ni’n hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ein haddysgu, drwy rannu ein hymchwil arloesol a chynnal gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae ein staff a'n myfyrwyr yn gwneud newidiadau cadarnhaol o ran ein heffaith ar yr amgylchedd, yn enwedig yn sgîl ein datganiad ar Argyfwng yn yr Hinsawdd, yn ogystal â'n nod i fod yn sero net o ran carbon erbyn 2030.

Cysylltu ein cymunedau â byd natur

Drwy ein cynllun Arloesedd i Bawb, rydyn ni’n cefnogi prosiectau lleol cyffrous gan ddefnyddio mannau gwyrdd cyffredin i ysbrydoli balchder mewn cymunedau, dod â phobl at ei gilydd, gwella lles a hybu buddsoddiadau mewn economïau lleol.

Mae ein prosiect Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd yn Abercynon yn creu llwybr natur rhyngweithiol a ddatblygwyd gan y gymuned yng Nghwm Cynon, gan wasanaethu'r gymuned leol i hyrwyddo gwell lles a chanlyniadau iechyd hirdymor.

Mae ein rhaglen Pharmabees yn ymchwilio i’r ffyrdd y gallai peillwyr helpu yn y frwydr yn erbyn archfygiau. Gan gyfuno ymchwil flaenllaw ag ymgysylltu â'r gymuned, rydyn ni’n ysbrydoli pobl ledled Caerdydd i gymryd rhan a helpu i greu dinas wyrddach sy'n gyfeillgar i wenyn.

A person pushing a wheelbarrow.

Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Rydym yn ymchwilio ffyrdd o wella iechyd a lles pobl drwy gysylltiad â natur.

Disgyblion o Ysgol Gynradd Llanishen Fach

Pharmabees

Sut rydym yn creu dinas sy'n groesawgar i wenyn ac yn helpu'r frwydr yn erbyn archfygiau.