Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau gwersi Cyfraith Iechyd a Moeseg


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Cyfraith iechyd a moeseg fydd pwnc dadleuon allweddol ynghylch gwerthoedd, polisïau a llywodraethu yn y gymdeithas gyfoes. Yn y fantol mae materion sylfaenol bywyd a lles, dewisiadau personol a chyfiawnder cymdeithasol, nwyddau unigol a thorfol, wrth i’r gyfraith gael ei llunio ac wrth benderfynu ar achosion.

Datblygwyd y set hon o ddeunyddiau addysgu bywiog, hygyrch ac o safon ar y gyfraith a moeseg i athrawon ysgolion uwchradd a’u myfyrwyr. Cafodd y deunyddiau eu dylunio a’u creu ar y cyd gan ymchwilwyr cyfraith iechyd Prifysgol Caerdydd, gweithwyr addysgu proffesiynol, ymarferwyr theatr ac addysgwyr arbenigol ac mae’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Phrifysgol Caerdydd yn eu cefnogi.

Mae'r deunyddiau hyn yn cyflwyno myfyrwyr i achosion sylweddol o gyfyng-gyngor cyfreithiol a moesegol mewn perthynas â hybu iechyd, a dulliau o ddatrys y rhain. Mae'n gwneud hynny drwy drin y gyfraith nid fel pe bai’n gorff o wybodaeth i'w chaffael yn oddefol, ond yn arfer deinamig lle bydd ymresymu, trafod a dadlau. Bydd yr adnoddau yn helpu athrawon i ysgogi trafodaethau gwybodus a pharchus, ac yn addysgu sgiliau allweddol o ran darllen, ysgrifennu, cyd-drafod a gwaith tîm, yn ogystal â myfyrio beirniadol ar y rhyngweithio rhwng iechyd a’r gymdeithas. Bydd y rhaglen waith hon hefyd yn helpu athrawon i gyflawni amcanion allweddol y Cwricwlwm newydd i Gymru a gellir ei theilwra a'i haddasu i weddu i'w hamgylchedd dysgu penodol. Mae'n cynnwys deunyddiau i uwchsgilio a helpu athrawon i ddatblygu gwybodaeth mewn dulliau a chysyniadau cyfreithiol.

Lawrlwythwch y deunyddiau addysgu

Uned 1

Uned 2

Uned 3


Ynglŷn â'r trefnydd

School of Law and Politics sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Barbara Hughes-Moore yn Hughes-MooreBE@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle


Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.

TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickY Dyniaethau

Math o weithgaredd

  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn