Ewch i’r prif gynnwys

Black Oot Here and There: Dreams O Us in Scotland and Wales

Defnyddio archifau Cymru a’r Alban, datblygu cwricwlwm hanes pobl ddu a chryfhau ysgolheictod astudiaethau pobl Ddu yng ngwledydd datganoledig Prydain.

Er gwaethaf eu gwahaniaethau, mae hanes pobl Ddu yn yr Alban a Chymru yn gysylltiedig â’i gilydd, ond yn anaml y bydd ymchwil neu fyfyrio am y ddau yn digwydd ar y cyd.

Yn seiliedig ar ymchwil flaenorol a sgyrsiau rhwng pobl Ddu yn yr Alban a Chymru, diben y prosiect hwn oedd creu arddangosfa ar-lein ar y cyd o’r enw Being Black Oot Here and There. Mae'n cynnwys ystod eang o waith creadigol newydd gan bobl Ddu yn yr Alban a Chymru.

Mae'r arddangosfa yn ehangu ar yr ymchwil flaenorol sef llyfr, Black Oot Yma: Black Lives in Scotland (Bloomsbury, 2022), a nofel graffig animeiddiedig (wedi’i chreu ar y cyd â Leeds Animation Workshop) — Black Oot Yma:  Dreams O Us, gan arweinydd prosiect yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Dr Francesca Sobande, layla-roxanne hill a’r darluniau gan Chris Manson.

Gweld yr animeiddiad a'r gweld y nofel graffig a’r taflenni gweithgareddau

Cysyllu profiadau

Mae Black Oot Here and There yn canolbwyntio ar brofiadau a myfyrdodau rhai pobl Ddu yn yr Alban a Chymru, gan gydnabod y cysylltiad rhwng profiadau a hanes pobl mewn lleoedd eraill, megis cydsefyll rhyngwladol a brwydrau dros ryddid ledled y byd.

Dyluniwyd yr arddangosfa, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, mewn partneriaeth ag Artes Mundi – sefydliad celfyddydol rhyngwladol o Gaerdydd.

Gweld yr arddangosfa a manylion pawb a gymerodd ran

Amlygodd Dr Sobande Black Oot Yma: Dreams O Us and Black Oot Here and There yn rhan o sgwrs yng nghyfres “Digital Delights and Disturbances” ym Mhrifysgol John Cabot yn Rhufain ar 13 Tachwedd 2024.

Darllenwch ragor am y sgwrs

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Picture of Francesca Sobande

Dr Francesca Sobande

Darllenydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol

Telephone
+44 29225 11352
Email
SobandeF@caerdydd.ac.uk