Ewch i’r prif gynnwys

Fforwm Ieuenctid

Youth Forum

Mae pobl ifanc Grangetown wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol, chwaraeon a hyfforddiant yn eu hardal leol.

Y syniad

Mae gan Grangetown boblogaeth enfawr o bobl ifanc. Nod Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange yw eu cysylltu â phob agwedd ar y Porth Cymunedol a datblygiad Pafiliwn Grange.

Cynnydd

Mae Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange yn hynod o boblogaidd ymhlith pobl ifanc yn Grangetown ac mae 30 i 40 o blant o bob oed yn mynychu’r sesiynau bob wythnos.

Ar ôl dechrau fel prosiect y Porth Cymunedol, daeth y Fforwm Ieuenctid yn endid annibynnol yn ddiweddar fel cwmni Buddiant Cymunedol yn 2021. Mae’r grŵp yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gefnogi ac ymgysylltu â gweithgareddau amrywiol yng nghymuned Grangetown fel y fforwm busnes, clybiau pêl-droed ac ymweliadau â’r Brifysgol. Mae aelodau'r Fforwm Ieuenctid yn cyfrannu at CIO Pafiliwn Grange hefyd trwy fod yn rhan o’r Bwrdd. Mae hyn yn bwydo i waith ehangach y Pafiliwn ac yn gwneud yn siŵr bod cynrychiolwyr pobl ifanc yn gallu chwarae rhan fwy canolog yn strategol.

Prif allbynnau

  • Partneriaethau a chysylltiadau cryf wedi'u creu gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol fel Undeb Rygbi Cymru, Street Games yn cynnal Clwb Chwaraeon Doorsteps ym Mhafiliwn Grange, a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn cynnal eu rhaglen Kicks.
  • Gweithio gyda staff academaidd Prifysgol Caerdydd o wahanol Ysgolion i gyd-ddylunio a chydweithio ar brosiectau a cheisiadau am gyllid gyda phobl ifanc, ennill sgiliau newydd a chodi dyheadau. Mae enghreifftiau'n cynnwys cydweithio'n llwyddiannus â'r Porth Cymunedol ar gyfer Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl 2022 i hyrwyddo'r digwyddiad ar draws y gymuned.
  • Llwyddiant yng Ngwobrau Cenedlaethol Gemau Stryd gan ennill Gwobr Genedlaethol Doorstop Engagement am ei waith yn cyflwyno chwaraeon yn y gymuned yn 2017.
  • Enillodd Grŵp Merched y Sefydliad Ieuenctid, a ffurfiwyd yn 2021, Wobr Gwneuthurwyr Newid Ifanc yn sgîl eu prosiect llwyddiannus ar rymuso ac iechyd a lles.
  • Cofrestrwyd fel cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CBC) ym mis Hydref 2021.
  • Ceisiadau llwyddiannus ar gyfer menter Lles y Gaeaf a Gwên o Haf i raglen Caerdydd sy’n Dda i Blant Cyngor Caerdydd gan sicrhau bron i £10K i gynnal gweithgareddau i bobl ifanc yn 2022.

Dilynwch Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange ar Twitter i gael mwy o ddiweddariadau am eu gweithgareddau.

Youth Forum

Y camau nesaf

Parhau i hyrwyddo syniadau a safbwyntiau pobl ifanc Grangetown a'u helpu i lywio gwaith y Porth Cymunedol a Phafiliwn Grange yn ogystal â rhoi llwyfan i bobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â'r Fforwm Ieuenctid cysylltwch ag Ali Abdi:

Ali Abdi

Ali Abdi

Partnerships and Facilities Manager

Email
abdia1@caerdydd.ac.uk