Ewch i’r prif gynnwys

Mae wedi dod i’r amlwg i lawer ohonom sut mae cysylltu â byd natur yn gwella sut rydym yn teimlo a’r ffordd y mae’n cael effaith gadarnhaol ar ein lles.

Daeth y syniad hwn yn arbennig o bwysig i lawer o bobl trwy gydol cyfnod y pandemig. Roedd mynd am dro ym myd natur, ymweld â pharciau neu dreulio amser mewn gerddi yn hwb hanfodol yn ystod cyfnod a oedd yn anodd i lawer.

I edrych ar y cysylltiadau rhwng natur a lles, mae tîm o’r brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â menter gymdeithasol gymunedol a gweithwyr iechyd proffesiynol. Nod y prosiect yw galluogi rhagor o bobl i gysylltu â natur, a helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r manteision y gall cysylltu â natur eu cynnig.

Mae 'rhagnodi gwyrdd' wedi’i seilio ar fanteision treulio amser ym myd natur o ran gwella lles pobl.

Rhagnodi amser ym myd natur

Mae'r prosiect yn seiliedig ar y cysyniad o 'ragnodi gwyrdd' sydd wedi’i seilio ar fanteision treulio amser ym myd natur o ran gwella lles pobl. Fe'i hystyrir yn aml fel math o 'ragnodi cymdeithasol', lle gellir 'rhagnodi' gweithgaredd i gleifion sy'n eu hannog i ymgysylltu ag eraill er budd eu hiechyd meddwl, ac yn aml eu hiechyd corfforol.

“Rhagnodi gwyrdd yw pan fydd meddyg yn ysgrifennu presgripsiwn ond nid ar gyfer meddyginiaeth,” esboniodd y meddyg teulu a’r addysgwr meddygol academaidd Dr Kamila Hawthorne. “Ei nod yw cael claf i wneud rhywbeth fydd yn eu grymuso ac yn gwella eu lles.”

Mae'n rhoi cyfle i gleifion ac aelodau'r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau natur yn lleol i wella eu hiechyd a'u lles. Gallai’r gweithgareddau hyn gynnwys: cynlluniau cerdded at ddibenion iechyd, rhedeg o amgylch parc, garddio cymunedol, rhaglenni tyfu bwyd, gwirfoddoli ym maes cadwraeth neu weithgareddau celfyddydol a diwylliannol.

Er mwyn helpu i gynnig cyfleoedd ar gyfer rhagnodi cymdeithasol gwyrdd a chasglu data hanfodol am ei fanteision, mae tîm y prosiect yn gweithio ochr yn ochr a Cynon Valley Organic Adventures, menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. “Rydym yn cynnig gwasanaethau addysg amgen ar y safle,” meddai sylfaenydd a chyfarwyddwr Cynon Valley Organic Adventures, Janis Werrett. “Ac mae pobl yn cael eu cyfeirio atom gan feddygon, gweithwyr iechyd proffesiynol ac elusennau er budd eu lles.”

The Cynon Valley Organic Adventures site

Mae Cynon Valley Organic Adventures yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i lleoli ar ddarn 5 erw o dir yn Rhondda Cynon Taf sy'n cynnwys afon, coetiroedd gwlyb, perllannau, pwll a thwneli polythen.

Gweithio gyda Cynon Valley Organic Adventures

Mae’r bartneriaeth rhwng Cynon Valley Organic Adventures a’r brifysgol wedi helpu i ddatblygu llwybr natur rhyngweithiol yn Abercynon. Cafodd hwn ei greu’n rhannol gan bobl a gyfeiriwyd at y cynllun drwy ragnodi cymdeithasol gwyrdd. Gyda chymorth Amgueddfa Cymru yng Nghaerllion, mae gwaith hefyd wedi dechrau ar greu gardd les Rufeinig ac mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu tŷ crwn Celtaidd.

“Bydd hyn yn cynnwys gardd feddyginiaeth ganoloesol, coetir oes yr iâ, a dôl Geltaidd gyda thŷ crwn Celtaidd,” eglura Janis Werrett.

Yn bwysig, mae'r bartneriaeth hefyd yn helpu i gasglu tystiolaeth ar effeithiau byd natur ar les pobl.

“Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn sylweddoli ar ôl Covid bod cysylltu â byd natur yn gwneud i ni deimlo’n well, ac mae’n deimlad greddfol bron bod natur yn cael effaith dda ar ein lles,” eglurodd arweinydd y prosiect, yr Athro Les Baillie. “Ond yn syndod, ychydig iawn o ddata gwyddonol sydd i brofi hynny mewn gwirionedd.”

“Mae gweithio gyda’r gymuned yn gyfle i ni gynhyrchu’r data a fydd yn caniatáu i ni fynd ati i gefnogi rhagor o brosiectau fel hyn ledled y wlad.”

Bydd cofnodi sut brofiadau sydd gan y cleifion o'r llwybr natur yn helpu i greu data o'r byd go iawn am fanteision y llwybr hwn, ac i ddeall sut gall cysylltu â byd natur hybu iechyd a lles.

Mae pobl sy'n cael eu cyfeirio at y prosiect yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau natur, gan gynnwys cadwraeth a gweithdai creadigol.

Helpu i newid pethau

Noddwyd y prosiect gan Accelerate | Rhaglen Cyflymu a reolir gan y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cefnogodd a chyfrannodd tîm y CIA at y prosiect trwy ei dîm profiadol o weithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd o ran cyflymu’r gwaith o greu datblygiadau arloesol sy’n canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol trwy ymchwil gydweithredol o safon uchel ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

“Cafodd y prosiect yma yn Abercynon ei sefydlu gan Janis a chydweithwyr, ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gall unigolion ei wneud i greu newid yn eu hamgylchedd,” meddai’r Athro Les Baillie. “Mae gan brosiectau fel Accelerate rôl allweddol wrth gysylltu’r syniad gwych â’r bobl sydd â’r gallu i helpu i wireddu’r weledigaeth honno.”

Esboniodd Janis Werrett yr effaith mae’r prosiect wedi’i chael: “Cyn prosiect Prifysgol Caerdydd dim ond grŵp o unigolion oedden ni ar y llain o dir, ond nawr mae pobl yn dechrau gweld bod yna ganlyniadau cadarnhaol a bod sylwedd i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae wedi mynd â'n sefydliad i lefel hollol wahanol.

“Maen nhw wedi bod yn hynod gyfeillgar a chefnogol a bydd y cyhoeddusrwydd a'r gydnabyddiaeth a gawn o'r prosiect hwn hefyd yn tynnu llawer o bartneriaid newydd i mewn i’r gwaith.

“Nid yw rhagnodi gwyrdd yn gysyniad adnabyddus, ond rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision byd natur ar les. Rwyf wedi ei weld yn newid bywydau a hoffwn weld rhagor o bobl yn elwa o hynny.”

Partners

Dolenni cysylltiedig

Tyfu ‘rhagnodi cymdeithasol’ gwyrdd

Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn ymuno â menter gymdeithasol o Gwm Cynon i ystyried manteision 'presgripsiynu cymdeithasol' gwyrdd ar iechyd, lles ac ansawdd bywyd.

Prosiect mannau gwyrdd a lles yn cipio gwobr flaenllaw

Prosiect Cadwraeth a Threftadaeth y Fali Werdd yn Abercynon wobr Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol

A person pushing a wheelbarrow.

Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Rydym yn ymchwilio ffyrdd o wella iechyd a lles pobl drwy gysylltiad â natur.