Ewch i’r prif gynnwys

Cyflymu

Accelerate

Rhaglen gymorth arloesol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Chymru Iachach yw Cyflymu.

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru sy’n ariannu’r rhaglen yn rhannol; mae'n canolbwyntio ar ddarparu atebion gofal iechyd arloesol ledled Cymru.

Sefydlwyd Cyflymu i hwyluso'r gwaith sy’n cychwyn drwy adnabod anghenion gofal iechyd 'go iawn' ac yn gorffen pan fydd atebion arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn dod i law. Ar ben hyn, mae gwaith ar y cyd rhwng clinigwyr, byd diwydiant, y byd academaidd a'r trydydd sector, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a thair prifysgol bartner ledled Cymru sy’n arwain y rhaglen.

Y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA)

Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r Ysgol Meddygaeth yn gartref i un o bartneriaid Cyflymu; sef y Cyflymydd Arloesi Clinigol (CIA). Mae’r CIA yn rhan o’r Ganolfan Arloesedd Clinigol ac mae’n cael cefnogaeth y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Mae CIA yn darparu arbenigedd mewn cyflymu'r broses o ddarparu arloesedd â ffocws clinigol trwy dîm profiadol o weithwyr proffesiynol sydd â galluoedd sy'n deillio o'r byd academaidd, rheoli prosiectau, ymchwil, economeg iechyd, ymgysylltu, diwydiant, arloesi ac ymarfer clinigol.

Mae perthnasoedd gwaith agos ag arbenigwyr academaidd, Byrddau Iechyd y GIG, ac â phartneriaid diwydiannol, yn galluogi canolbwyntio syniadau newydd i arferion a gweithdrefnau clinigol/gofal iechyd y byd go iawn, gyda chymorth model cyflenwi defnyddiwr-ganolog. Mae mabwysiadu dull anghenion defnyddwyr o adeiladu prosiectau yn sail i'r tebygolrwydd o gynaliadwyedd yn y dyfodol ac yn gwella'r llwybrau i gael effaith.

Allbynnau'r CIA

Mae allbynnau a gynhyrchir o gydweithrediadau dan arweiniad CIA yn cael eu gwireddu trwy ystod o brosiectau platfform a pheilot, gan amrywio o newidiadau mewn arferion gofal iechyd clinigol a chynaliadwy, i ddatblygu cymwysiadau deallusrwydd artiffisial, gwerthusiadau a datblygu cynnyrch newydd.

Mae amrywiaeth o ddata yn cael ei gynhyrchu a allai lywio arloesedd sy'n cael ei yrru gan ymchwil y tu hwnt i'r prosiectau cychwynnol. Mae hyn yn cynnwys digonedd o ddata cynyddol bwysig yn y byd go iawn, gan gynnwys mesurau canlyniadau a phrofiad a adroddir gan gleifion.

Yn yr argyfwng COVID presennol, mae'r CIA yn dangos ei berthnasedd sefyllfaol a'i ymatebolrwydd trwy gyfrannu at y gwaith COVID hanfodol sy'n cael ei gyflawni trwy labordy categori 3 Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cael ei weithredu trwy'r gefnogaeth i gymdeithion ymchwil wneud y gwaith hwn lle mae amser yn bwysig o fewn cyfleusterau pwrpasol Caerdydd.

Mae cyfraniad CIA i'r Rhaglen Cyflymu yn galluogi cyfleoedd penodol i wireddu a chyflymu atebion newydd, arloesol, trwy ymchwil effeithiol, datblygu a chydweithrediadau sy'n canolbwyntio ar arloesi.

Mae'r gwaith hwn yn sail i etifeddiaeth o arloesi gofal iechyd ar sail tystiolaeth, gan gyflawni blaenoriaethau llywodraeth Cymru, a chefnogi effaith barhaol ar draws gwyddorau bywyd a gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglen

I gael gwybod rhagor, lawrlwythwch ein llyfryn neu mae croeso mawr ichi gysylltu â ni.

Cyflymu - Y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA)

Trosolwg o'r galluoedd, yr arbenigedd a'r partneriaethau sy'n gysylltiedig â'r Cyflymydd Arloesedd Clinigol.

Ariennir gan

WEFO

Astudiaethau achos am raglen Cyflymu

Y Fest Cefnogi Tiwb Tracheostomi Newydd

Gwerthuso fest tracheostomi

Y fest a gynlluniwyd i wella arferion ffisiotherapi i alluogi cleifion tracheostomii gael eu cefn atynt ac adennill cryfder ar ôl triniaeth

The geko™ device

Treialu dyfais geko™ mewn cleifion COVID-19

Mae geko™ yn rhoi ysgogiad trydanol niwrogyhyrol di-boen i ran isaf y goes.

Falfiau allanadlu 3D wedi’u hargraffu - Enghraifft o ailbwrpasu cyfarpar er mwyn bodloni gofynion newydd.

Y GIG a pheirianwyr yn dod at ei gilydd i adeiladu canolfan

Mae'r prosiect dwy flynedd hwn yn dwyn ynghyd Softgel Solutions Ltd, Innotech Engineering, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Monitro symudiadau yn y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol

Llawdriniaeth rithwir wedi’i phersonoleiddio ar gyfer triniaeth arthritis pen-glin

Mae TOKA® yn brosiect cydweithredol rhwng 3D Metal Printing a’r Ganolfan Biomecaneg Orthopedig ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Adroddiadau economeg iechyd

Mae’r gyfres o adroddiadau economeg iechyd ar bynciau sy’n ymdrin ag arloesedd clinigol gan y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) ar gael i bob un o’n rhanddeiliaid.

Mathau o adroddiadau

  1. Adolygiadau economaidd lefel uchel o arloesedd clinigol yw’r Adroddiadau Deall Economeg iechyd. Eu bwriad yw bod yn adroddiadau briffio ar gyfer rhanddeiliaid sydd â diddordeb.
  2. Mae rhesymau economeg iechyd yn mynd i'r afael â'r cwestiwn penodol: 'Pa fanteision economaidd go iawn a allai fod ynghlwm wrth arloesedd clinigol?'. Eu bwriad yw helpu rhanddeiliaid i benderfynu a ddylid dechrau cynllun peilot neu dreial clinigol.
  3. Mae Adroddiadau Asesu Economeg Iechyd yn mynd i'r afael â'r cwestiwn penodol: 'I ba raddau y mae arloesedd yn gweithio, a beth fydd y gost?'. Eu bwriad yw helpu rhanddeiliaid i benderfynu a ydyn nhw eisiau parhau, oedi neu atal cynllun peilot neu dreial sy'n bodoli eisoes.
  4. Ymhlith yr Adroddiadau ar economeg iechyd ym maes treialon clinigol mae dadansoddiadau o gost-effeithiolrwydd neu gost-ddefnyddioldeb deilliannau iechyd a adroddwyd gan dreialon clinigol. Y bwriad yw eu cynhyrchu erbyn diwedd yr astudiaethau ar effeithiolrwydd clinigol.
  5. Adolygiadau o'r ymddygiad strategol a’r dewisiadau sy'n wynebu cyflenwyr a defnyddwyr/mabwysiadwyr mewn marchnad ar gyfer arloesedd clinigol yw Adroddiadau strategaeth y CIA ar economeg iechyd. Eu bwriad yw bod yn adroddiadau briffio ar gyfer rhanddeiliaid sydd â diddordeb.
  6. Canllawiau ar gyflwyno achosion economaidd ar gyfer arloesedd clinigol yw canllawiau achos busnes y CIA. Eu bwriad yw bod yn adroddiadau briffio ar gyfer rhanddeiliaid sydd â diddordeb.

Adroddiadau cyhoeddedig

Adroddiad Mewnwelediad - IPC iacháu clwyfau

Therapi Cywasgiad Niwmatig Ysbeidiol (IPC) ar glun coes ag wlser i hyrwyddo iacháu clwyfau ar ran isaf y goes mewn cleifion.

Adroddiad Mewnwelediad - Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid Llywodraeth Cymru

Peilot Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.