Ewch i’r prif gynnwys

Tyfu ‘rhagnodi cymdeithasol’ gwyrdd

12 Mawrth 2021

Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn ymuno â menter gymdeithasol o Gwm Cynon i ystyried manteision 'rhagnodi cymdeithasol' gwyrdd ar iechyd, lles ac ansawdd bywyd.

Mae 'rhagnodi cymdeithasol' gwyrdd yn gweithio trwy alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i atgyfeirio pobl at weithgareddau sy'n seiliedig ar natur - fel garddio neu weithgareddau awyr agored - gan ddod â manteision meddyliol a chorfforol.

Mae tîm dan arweiniad yr Athro Les BaillieYsgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn ymuno ag Cynon Valley Organic Adventures (CVOA) - menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf - i ddatblygu llwybr natur.

Mae CVOA mewn coetir a gardd gymunedol hardd pum erw. Ar hyn o bryd mae’n cynnig gweithgareddau lles, dysgu achrededig sy'n chwalu'r rhwystrau rhag dysgu, a gwaith ac ysgol haf i blant rhwng 5 a 12 oed.

Gan weithio gyda'r gymuned, bydd y bartneriaeth yn datblygu llwybr natur yn Abercynon a fydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ar gyfarwyddyd meddygon teulu ac aelodau o'r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur, er mwyn gwella eu lles personol.

Cefnogir y prosiect gan Accelerate - cydweithrediad arloesol rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy'n helpu i drosi syniadau arloesol yn gynhyrchion newydd.

Dywedodd Janis Werrett, sylfaenydd Cynon Valley Organic Adventures: “Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner gyda Phrifysgol Caerdydd ac Accelerate i greu llwybr natur a fydd yn helpu i fesur manteision rhagnodi cymdeithasol. Rwy'n gwybod o brofiad personol, wrth i chi feithrin natur, bod natur yn eich meithrin chithau. Sefydlodd tri ohonom CVOA yn 2018. Wrth i ni dorri danadl poethion oedd wedi bod yno am bum mlynedd a gosod ffensys ar ein safle, dechreuodd ein lles wella. Yn union fel y tyfodd yr ardd, fe wnaethon ni dyfu'n iachach ac yn hapusach.”

Mae gardd bywyd gwyllt CVOA yn dod â phobl ynghyd i dyfu a choginio bwyd a datblygu cyfeillgarwch newydd. Sefydlodd y fenter gyrsiau dysgu achrededig yn 2019 i gynhyrchu incwm, a helpodd yn ei dro i brynu’r tir yn 2020 gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr Athro Baillie: “Wrth ei wraidd, mae ein partneriaeth yn ymwneud â chreu llwybr natur cymunedol yn Abercynon. Nod Prifysgol Caerdydd yw cefnogi'r gymuned, a chynnig arbenigedd gan grwpiau fel ein prosiect Pharmabees i helpu CVOA i greu mannau sy’n gyfeillgar i beillwyr ac i baratoi adnoddau addysgol cysylltiedig.

“Mae rhagnodi gwyrdd yn amserol iawn, ond mae angen tystiolaeth wyddonol fwy cadarn i helpu cymdeithas i gael gwell dealltwriaeth o'r manteision y gall ei gynnig i fywydau pobl. Byddwn yn gweithio gyda meddygon teulu lleol a chleifion yn Nyffryn Cynon i nodi sut y gall cysylltu â natur hybu iechyd a lles. Bydd cofnodi profiadau cleifion o'r llwybr natur yn ein helpu i gynhyrchu rhywfaint o ddata go iawn am y manteision."

Mae'r bartneriaeth yn rhan o Genhadaeth Ddinesig Prifysgol Caerdydd, i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau, sefydliadau a chymunedau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru, y DU ac yn rhyngwladol i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a gwella lefelau iechyd, cyfoeth a lles.

Rhannu’r stori hon