Ewch i’r prif gynnwys

Gall ymosodiadau seiberddiogelwch effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le. Gan fod cymaint o weithgareddau bob dydd bellach yn dibynnu ar dechnoleg ddigidol yn dilyn y pandemig, mae’n bwysicach nag erioed bod gan bobl y sgiliau a’r wybodaeth i osgoi peryglon seiberddiogelwch ac achosion o dorri preifatrwydd.

Yn 2021-22, fe gynhaliodd tîm o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg brosiect allgymorth i helpu’r cyhoedd, yn ogystal â myfyrwyr yr ysgol a’r coleg, i wella eu sgiliau seiberddiogelwch. Roedd yn cynnwys gweithdai mewn ysgolion, digwyddiadau cyhoeddus a sesiynau ar bynciau fel diogelwch ar-lein, rheoleiddio preifatrwydd a hawliau, peirianneg gymdeithasol, diogelwch ffôn, gwe-rwydo a sbam.

Engagement activity at the School of Computer Science and Informatics

Fe wnaeth y gweithgareddau mewn ysgolion, a gynhaliwyd gan y tîm, helpu i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cyfrifiadureg a seiberddiogelwch.

Arwain maes seiberddiogelwch yng Nghymru

Seiberddiogelwch yw un o feysydd blaenoriaeth Prifysgol Caerdydd. Rydym yn cael ein cydnabod fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch (ACE-CSE) gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Rydym hefyd yn un o ddim ond tair Prifysgol Grŵp Russell ymchwil-ddwys yn y DU i feddu ar ACE-CSE a Chydnabyddiaeth y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch.

Dyfarnwyd cydnabyddiaeth ACE-CSE am y gwaith y mae ein hymchwilwyr seiberddiogelwch ac addysgwyr yn ei wneud ar draws y Brifysgol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gweithgareddau allgymorth i bobl iau a’r cyhoedd, ymgysylltu â diwydiant, a rhaglenni gradd seiberddiogelwch o ansawdd uchel. Drwy gynnal rhaglenni allgymorth cyhoeddus, helpu ein cymunedau a’n busnesau i deimlo’n fwy diogel a chael eu hamddiffyn yn well rhag bygythiadau seiber yw un o brif flaenoriaethau ein ACE-CSE.

Girls taking part in lab session

Mae digwyddiad allgymorth Cyber ​​First Adventurers ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 7 ac 8, a gyflwynwyd gan y tîm, yn rhan o raglen Cyber ​​First.

Ymgorffori seiberddiogelwch yn y gymuned

Roedd y seminarau ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch ar gyfer y cyhoedd yn esbonio sut i fanteisio ar yr ystod eang o wasanaethau ar y we ochr yn ochr â bod yn ymwybodol o faterion diogelwch a phreifatrwydd. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys sut i greu cyfrineiriau cryf, dilysu aml-ffactor, olion traed digidol cadarnhaol a rheoliadau diogelu data.

Fe gyflwynodd Sanyam Vyas, myfyriwr PhD o Gaerdydd y sesiynau ymwybyddiaeth yn rhan o’r prosiect, a dywedodd: “Ar y cyfan, roedd yn brofiad gwerth chweil gan mai fi oedd wrth y llyw yn lledaenu’r canllawiau diogelwch ar-lein diweddaraf ymhlith y bobl leol.”

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd ym maes seiberddiogelwch ac fe helpodd bobl ifanc i ddeall yr ystod eang o gyfleoedd ym myd gwaith y gall seiberddiogelwch eu cynnig. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau byr am yrfaoedd gan arbenigwyr seiberddiogelwch, yn ogystal â thrafodaeth banel am yrfaoedd ym maes seiberddiogelwch gydag arbenigwyr o Airbus, PwC, Tarian a Chanolfan Seibergadernid Cymru.

Mae digwyddiad allgymorth Cyber ​​First Adventurers ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 7 ac 8 a gyflwynwyd gan y tîm yn rhan o raglen Cyber ​​First. Ei nod oedd ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cyfrifiadureg a seiberddiogelwch.

Dywedodd Maha Alotaibi, myfyriwr PhD o Gaerdydd oedd wrth law i helpu’r rhai oedd yn cymryd rhan yn ystod digwyddiad Cyber ​​First Adventurers: “Roedd cymryd rhan yn nigwyddiad CyberFirst Adventurers yn gyfle gwych i ymchwilio i’r broblem sy’n gysylltiedig ag addysgu seiberddiogelwch i fyfyrwyr uwchradd. Trafodais gyda’u hathrawon y prif anawsterau i ddysgwyr ifanc.”

Canolbwyntiodd y digwyddiad ar fyfyrwyr o ardaloedd economaidd ddifreintiedig yng Nghaerdydd, a merched sy’n fyfyrwyr uwchradd yng Nghymru – grŵp sy’n cael ei dangynrychioli ym maes cyfrifiadureg a seiberddiogelwch.

Dywedodd Iryna Bernyk, myfyriwr PhD o Gaerdydd a fu hefyd yn helpu i gyflwyno digwyddiadau allgymorth: “Y tu allan i fy astudiaethau, rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn pynciau STEM. Roedd hwn yn gyfle imi ddefnyddio fy angerdd i gefnogi digwyddiadau amrywiol sy’n ceisio addysgu'r genhedlaeth ifanc sut i ddatrys ystod eang o broblemau. Roedd hyn yn amrywio o broblemau cyffredin fel cadw golwg ar dasgau pwysig, i broblemau byd-eang, fel newid hinsawdd.”

Mae'r tîm yn bwriadu defnyddio'r prosiect i sefydlu a meithrin perthynas â'r gymuned leol yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Y camau nesaf

Mae'r tîm yn bwriadu defnyddio'r prosiect i sefydlu a meithrin perthynas â'r gymuned leol yng Nghaerdydd a thu hwnt. Gyda lwc, bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at leihau nifer yr achosion o seiberdroseddu yng Nghaerdydd a’r rhanbarth.

Mae recordiadau a deunydd o’r digwyddiadau a gyflwynwyd yn rhan o’r prosiect, ar gael ar gais. Os ydych chi'n athro ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn defnyddio'r deunydd mewn gweithgareddau yn eich dosbarth, cysylltwch â Dr Yulia Cherdantseva.

Partneriaid

Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod cyswllt o raglen CyberFirst.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan nifer o bartneriaid allweddol hefyd gan gynnwys:

  • Mae Canolfan Seiber-Gwydnwch Cymru yn rhan o’r broses o gyflwyno Canolfannau Seiber-Gwydnwch yn genedlaethol yn y DU. Arweinir y rhain gan ddulliau plismona i geisio diogelu busnesau a sefydliadau trydydd sector rhag seiberdroseddu
  • Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, a ariennir gan y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a thri awdurdod yr Heddlu yn ne Cymru. Ymchwilwyr seiberdroseddu yw’r tîm amlddisgyblaethol hwn ac maent wedi ymrwymo i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol difrifol, a'u chwalu.
  • Airbus Cyber ​​Innovation, y tîm sy'n gyfrifol am arloesedd seiberddiogelwch Airbus ledled y byd. Mae’n cynnig gwasanaethau ymgynghori, trafod syniadau, datblygu ac arbenigol ar bynciau TG, Therapi Galwedigaethol a diogelwch cynnyrch.

Dolenni cysylltiedig

CyberFirst

CyberFirst event to encourage young people into cyber security

The School of Computer Science and Informatics is set to inspire school pupils to pursue a career in cyber security by hosting an important event alongside the CyberFirst Programme.

Girls taking part in lab session

Ymgysylltu â phobl ifanc i ddysgu am gyfleoedd ym maes STEM

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi bod yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried astudio pynciau STEM.

CyberFirst logo

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol seibr-ddiogelwch

Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn cynnal digwyddiad pwysig sy’n annog disgyblion ysgol i ddilyn gyrfa ym maes seibr-ddiogelwch.