Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC
Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ŵyl flynyddol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Cynhelir yr ŵyl mewn llu o brifysgolion ledled y DU.
Mae’r ŵyl yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o ymchwil ragorol Prifysgol Caerdydd ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Mae'r ymchwil hon yn llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesedd, ac mae'n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol o bwys yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Uchafbwyntiau Gŵyl 2023
Cyflwynwyd Gŵyl 2023 mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, a llu o bartneriaid o'r trydydd sector o amgylch y thema "lles gydol oes". Gyda'n gilydd, fe wnaethom gynnal 18 digwyddiad ledled Cymru ac ymgysylltu â 663 o ymwelwyr i drafod sut mae'r gwyddorau cymdeithasol yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd ac yn cyfrannu at les.
Roedd rhaglen yr ŵyl yn cynnwys ystod o ddigwyddiadau rhyngweithiol cyhoeddus, ac mewn ysgolion, ar ystod eang o bynciau gan gynnwys: byw gyda sychder; archwilio system fwyd Cymru; nofio gwyllt er lles; hygyrchedd i gerddoriaeth i bobl fyddar drwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL); cerdded a beicio ar gyfer teithiau pwrpasol; lles trwy gemau o ddifrif, ac arbenigedd sy'n ysgogi'r meddwl am y berthynas symbiotig rhwng y gwyddorau cymdeithasol a lles gydol oes.
Daeth yr ŵyl i ben drwy gynnal trafodaeth ddifyr am sut y gallai polisïau cyhoeddus wneud rhagor i wella lles yng Nghymru yn gyffredinol. Dan gadeiryddiaeth yr Athro Chris Taylor, bu panel o arbenigwyr academaidd o bob rhan o Gymru yn trafod materion sy'n ymwneud ag unigrwydd ac unigedd. Roedd y rhain yn cynnwys lles meddyliol pobl ifanc, effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, sut y gallai polisïau sy'n dod i'r amlwg helpu i weddnewid materion lles, a'r hyn y mae cymuned fusnes Cymru yn ei wneud i gynorthwyo cymunedau. Gwyliwch recordiad o’r digwyddiad.
Gweithio gydag ysgolion
Roedd ein sesiynau ymgysylltu ysgol amrywiol yn cynnwys 37% o gyfanswm cynulleidfa'r ŵyl. Croesawyd pobl ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Caerdydd, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Saint, Ysgol Gynradd Lansdowne, Ysgol Gynradd Maesyfed ac Ysgol Gynradd Bryn Celyn, ar y campws i archwilio lles gydol oes drwy garwsél o weithgareddau.
Roedd dros 75% o'r bobl ifanc a fynychodd ddigwyddiadau'r ysgol yn teimlo bod eu teimladau neu eu barn am les wedi newid. Pan ofynnwyd iddynt sut yr oeddent yn bwriadu gofalu am eu lles pan fyddant yn hŷn neu'r hyn yr oeddent wedi'i ddysgu, roedd yr ymatebion yn cynnwys:
- 'Hoffwn i aros yn chwilfrydig'
- "Rydw i wedi dysgu gwneud yn siŵr fy mod i'n gofalu amdanaf fy hun bob dydd drwy wneud pethau rwy'n eu mwynhau"
- "Hoffwn fynd ar deithiau cerdded a chael awyr iach ym myd natur, a gwneud pethau sy'n fy ngwneud yn hapus fel darlunio a gwrando ar gerddoriaeth"
- "Rwyf wedi dysgu deall ac adnabod fy emosiynau"
Yn seiliedig ar gwrs a gyd-gynhyrchwyd gydag Ysgol Uwchradd Fitzalan ar Foeseg Iechyd a'r Gyfraith i Fyfyrwyr Ôl-Gynradd yng Nghymru (HEAL), ymwelodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ag Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf hefyd i gyflwyno llys ffug lys barn (ffug dreial) i ddisgyblion Blwyddyn 10 sy'n canolbwyntio ar ddadlau moesegol a chyfreithiol wrth roi organau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Er budd athrawon, gweithwyr addysg proffesiynol, a llunwyr polisi, cynhaliom ystod o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, pob un yn seiliedig ar ein hymchwil arloesol ddiweddaraf. Roedd y rhain yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o a mynd i'r afael â phryder mathemateg, mewnwelediadau i iechyd a lles mewn ysgolion, gwrando ar bobl ifanc, risgiau iechyd, newid ymddygiadol, a gweithredu myfyrwyr ysgol.
Gwneud gwahaniaeth
Roedd holl ddigwyddiadau'r ŵyl yn ennyn diddordeb ymchwilwyr a chymunedau ehangach i wneud gwahaniaeth; wrth feddwl a gweithredu fel eiriolwyr dros newid - yma yng Nghymru nawr ac i'r dyfodol - a gosod agendâu. Mewn cyfnod sy'n newid yn gyflym, mae ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn cyfrannu'n anfesuradwy at wella ein cymunedau lleol a byd-eang.
Ein prosiectau cymunedol lleol
Rydym yn defnyddio ein hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno prosiectau effeithiol sydd wedi’u harwain gan y gymuned ynghyd â myfyrwyr a staff sy’n gwirfoddoli.