Gŵyl Bod yn Ddynol
Ariennir Gŵyl Bod yn Ddynol drwy Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae’n ŵyl flynyddol o'r dyniaethau sy'n cael ei chynnal mewn llu o brifysgolion, gan gyflwyno cannoedd o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ledled y DU a thu hwnt.
Yn 2023, dewiswyd Prifysgol Caerdydd yn un o’r pum prif ganolfan ledled y DU i gynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2023 mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.
Mae’r ŵyl yn dathlu sut mae ymchwilwyr ym maes y dyniaethau’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, gan ein helpu i ddeall ein hunain, ein perthynas â phobl eraill a'r heriau sy'n ein hwynebu mewn byd sy'n newid.
Gwyliwch y fideo byr hwn i gael gwybod rhagor am yr hyn sy'n gwneud Gŵyl Bod yn Ddynol yn unigryw.
Rhagor am yr Ŵyl
Bob blwyddyn mae'r ŵyl yn gwahodd ymchwilwyr o brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill i gydweithio â phartneriaid cymunedol a diwylliannol lleol i greu digwyddiadau cyffrous a diddorol rhad ac am ddim i’r cyhoedd, a rhannu syniadau sydd o fydd i bawb.
Cyflwynwyd Gŵyl 2023 mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru a llu o bartneriaid o'r trydydd sector o amgylch y thema "rheol a rheswm". Gyda'n gilydd, fe wnaethom gynnal 13 digwyddiad dros gyfnod o 10 diwrnod yn ystod yr ŵyl, ac ymgysylltu â 780 o ymwelwyr i drafod ymchwil yn y dyniaethau sy'n ymwneud â'r ardaloedd y mae ein sefydliadau wedi'u lleoli ynddynt, a Chymru'n ehangach.
Uchafbwyntiau Gŵyl 2023
Tynnodd rhaglen ein gŵyl ar waith ymchwil amrywiol gan gynnwys gwaith cloddio archaeolegol, gwarchod gwaith celf, deallusrwydd artiffisial ym maes newyddiaduraeth, casgliadau o ffyngau, arddangosfa o straeon iechyd meddwl cyn-filwyr, a hanes trefedigaethol a diwydiannol Castell Penrhyn.
Anelwyd ein digwyddiadau i’r cyhoedd, oedd yn rhad ac am ddim, at ystod o oedrannau yn ogystal â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac roeddent yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad, arddangosiadau, trin gwrthrychau, a gweithdai celfyddydol a chrefft i deuluoedd.
Gweithio gydag Ysgolion
Llwyddodd ein sesiynau amrywiol yn ymgysylltu ag ysgolion i ddenu 15% o holl gynulleidfa'r ŵyl, ac roedd pob un o’r rhain yn ategu'r themâu allweddol o fewn y cwricwlwm yng Nghymru.
Gwahoddwyd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Cantonian i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddysgu sut mae cadwraethwyr yn defnyddio gwyddoniaeth i ddeall sut a pham mae deunyddiau a ddefnyddir gan artistiaid wedi newid dros amser. Cafodd y disgyblion eu tywys ar daith o amgylch yr orielau celf i edrych ar agweddau technegol ar baentiadau cyfarwydd, a dod o hyd i elfennau cudd ac annisgwyl trwy belydrau-x, micro-bylu a fflworoleuedd pelydr-x.
"Fe fwynhaodd y disgyblion y cyfle i ymweld â'r amgueddfa pan oedd ar gau a gweld y gwaith mae'r cadwraethwyr celf yn ei wneud tu ôl i'r llenni. Yr uchafbwynt iddyn nhw oedd gallu bwrw golwg manwl ar waith celf cyfarwydd ac ymgysylltu â'r siaradwyr. Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion weld pa swyddi sydd ar gael yn y diwydiant celf a dysgu rhagor am hanes celf gan weithwyr proffesiynol y diwydiant." Athro o Ysgol Uwchradd Cantonian
Croesawodd yr ŵyl hefyd 29 o ddisgyblion o Ysgol Plasmawr ac Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd i weithdy celf ac adrodd straeon wedi'i gyd-greu yng Nghanolfan Treftadaeth Caer, sydd ym maestrefi Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd. Ar ôl archwilio hanes y fryngaer a thrafod arteffactau a oedd wedi’u claddu yno, cydweithiodd y disgyblion â haneswyr ac artist cymunedol i greu bwrdd stori o gymeriadau canoloesol a allai fod wedi byw ym mryngaer Caerau.
Hybu cydweithio ar draws y sector Addysg Uwch a Threftadaeth yng Nghymru
Ymunodd Prifysgol Caerdydd ag Amgueddfa Cymru i gyflwyno Gŵyl Bod yn Ddynol yn rhan o bartneriaeth strategol ehangach i hybu cydweithio ym maes addysg uwch a'r sector treftadaeth yng Nghymru.
Mae’r bartneriaeth strategol a phwysig hon yn cydweithio ar draws pum maes: ymchwil ac arloesedd; diogelu ac adfer yr amgylchedd; diwylliannau digidol a thechnolegau addasol; sgiliau, talent a dysgu gydol oes; a sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi treftadaeth.
Gwneud gwahaniaeth
Drwy ein partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, llwyddodd digwyddiadau’r ŵyl i gyflwyno pynciau, casgliadau a gofodau nad ydynt fel arfer ar gael i’r cynulleidfaoedd sy'n ymweld â nhw.
Fe gyflwynodd Gŵyl Bod yn Ddynol y cyfle i ddangos grym ac effaith cydweithio mewn ffyrdd amrywiol ac ystyrlon. Mae hyn yn o fudd i bob sefydliad partner yn ogystal â'r cymunedau o’n cwmpas yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.
Mae pob un o’n digwyddiadau wedi ennyn diddordeb ymchwilwyr a chymunedau ehangach i wneud gwahaniaeth. Yn y cyfnod hwn sy’n newid o hyd, mae ein hymchwil yn y dyniaethau yn parhau i ysbrydoli a chyfoethogi ein bywydau bob dydd ac yn ein helpu i ddeall ein hunain a'r ffordd rydyn ni’n ymwneud â phobl eraill.
Ein prosiectau cymunedol lleol
Rydyn ni’n defnyddio ein harbenigedd helaeth i gefnogi a chynnal prosiectau effeithiol dan arweiniad y gymuned ochr yn ochr â myfyrwyr a staff sy’n gwirfoddoli.