Ewch i’r prif gynnwys

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) bellach yn cael ei gydnabod yn un o'r 10 bygythiad mwyaf sy'n wynebu’r ddynoliaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae brwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd yn her fawr sy'n wynebu iechyd y byd ac mae angen ymdrech ar y cyd gan lawer o sectorau gwahanol gan gynnwys y cyhoedd.

Yn ‘LABORDY CELF: 'Celf ymwrthedd gwrthficrobaidd' cyfunwyd y celfyddydau a gwyddoniaeth i ddangos yn glir sut y gall pob un ohonon ni chwarae rhan yn y gwaith o leihau AMR drwy ddefnyddio deunydd gwrthficrobaidd mewn ffordd gyfrifol.

Cynhaliwyd digwyddiad ac arddangosfa LABORDY CELF yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2022.

Pan na fydd y cyffuriau'n gweithio

Pethau byw hynod o fach yw micro-organebau. Maen nhw o'n hamgylch ni ac yn eu plith mae bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid. Nid yw'r mwyafrif yn niweidiol inni, ac mae llawer yn dda inni - maen nhw yn ein perfeddion ac maen nhw'n helpu o ran treulio bwyd - ond mae nifer fach o ficro-organebau yn niweidiol ac yn gallu achosi heintiau sy'n ein gwneud ni'n sâl.

Mae AMR yn digwydd pan fydd micro-organebau'n newid dros gyfnod o amser ac yn rhoi'r gorau i ymateb i weithredyddion gwrthficrobaidd sydd wedi cael eu defnyddio'n draddodiadol i drin heintiau mewn pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Mae ymwrthedd i wrthficrobau sy'n mynd yn fwyfwy cyffredin yn ei gwneud yn anoddach trin heintiau, gan gynyddu lledaeniad clefydau, salwch difrifol a marwolaeth hyd yn oed. Problem gymhleth yw AMR sydd â llawer o ffactorau cysylltiedig sy'n effeithio ar bob un ohonon ni yn y pen draw.

Ceir microbau sy'n gwrthsefyll gwrthficrobau ym mhob man – mewn pobl, anifeiliaid, bwyd, planhigion a'r amgylchedd (y dŵr, yr awyr a’r pridd). Maen nhw’n gallu lledu o berson i berson neu rhwng pobl ac anifeiliaid, gan gynnwys o fwyd sy'n tarddu o anifeiliaid.

Mae AMR yn digwydd yn naturiol ond mae camddefnyddio a gorddefnyddio gwrthficrobau yn eang wedi cyfrannu'n fawr at y ffaith ei fod ar gynnydd ledled y byd.

Gwaith celf gan Drew Copus wedi'i ysbrydoli gan broses AMR. Ynghlwm wrth yr arddangosfa roedd gweithiau celf a gomisiynwyd yn ogystal â chelf gan aelodau o'r cyhoedd.

LABORDY CELF: Celfyddyd ymwrthedd gwrthficrobaidd

Mae deall sut mae gwrthficrobau’n gweithio, sut a pham mae ymwrthedd yn digwydd, yn golygu bod pawb yn gallu chwarae rôl wrth leihau AMR.

Ceisiodd y prosiect hwn, dan arweiniad Ysgol y Biowyddorau, fynd i'r afael â hyn drwy ddefnyddio digwyddiadau celfyddydol a gwyddoniaeth ar bwnc AMR a ddatblygwyd ar y cyd gan ein staff a'n hymchwilwyr, Rhwydwaith Caerdydd Creadigol a gweithwyr proffesiynol creadigol. Nod y prosiect oedd cynyddu ymwybyddiaeth o AMB a chyrraedd pobl na fydden nhw fel arall efallai yn dod i gysylltiad â gweithgareddau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mwy traddodiadol.

Cynhaliwyd digwyddiad LABORDY CELF yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2022, ac ynddo cafwyd dangosiad o'r ffilm ddogfen 'RESISTANCE' ac yna drafodaeth banel yn ogystal ag arddangosfa gelf ar thema AMR a oedd ar agor i'r cyhoedd drwy gydol yr ŵyl.

Ar y panel a oedd yn trafod y ffilm roedd Becky Holmes, Sefydliad Ffiseg Cymru, yr Athro Eshwar Mahenthiralingam, Ysgol Biowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd a'r Athro Kerry Hood, Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd. Yn yr arddangosfa gelf roedd gweithiau celf a gomisiynwyd gan weithwyr proffesiynol creadigol Rhwydwaith Caerdydd Creadigol , yn ogystal â chelfyddydwaith yn dilyn cystadleuaeth gelf gyhoeddus a gafodd ei hyrwyddo mewn canolfannau cymunedol, canolfannau celfyddydau, ysgolion, siopau a chaffis ledled Caerdydd yn ogystal â ledled y brifysgol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhai o’r bobl yn nhîm LABORDY CELF: (o’r chwith i'r dde) Fiona Gagg, Laura Rushton, Becky Holmes, Beky Weiser, Eshwar Mahenthiralingam, Luiza Patorski, Naomi Hughes, Vicki Ball.

Gwella ymwybyddiaeth o AMB

Llwyddodd y prosiect hwn i gyrraedd plant, oedolion, gweithwyr proffesiynol creadigol a chymunedau nad ydyn nhw’n aml yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus STEM mwy traddodiadol a’r nod oedd cynyddu eu dealltwriaeth o AMR a hyrwyddo’r defnydd priodol o wrthficrobau.

Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, Dr Rebecca Weiser o Ysgol y Biowyddorau, “Er na allwn olrhain newidiadau hirdymor o ran ymddygiad sy'n ymwneud â’r defnydd priodol o wrthficrobau, mae'n amlwg bod ein prosiect wedi gwella ymwybyddiaeth o AMR mewn pobl o grwpiau oedran gwahanol sydd â chefndir gwyddonol/celfyddydol a’r bobl nad ydyn nhw’n meddu arno. Roedd y sawl a ddaeth i’r arddangosfa, yr artistiaid a gomisiynwyd a’r sawl a gymerodd ran yn y gystadleuaeth gelf wedi mwynhau’r cyfle i gyfuno gwyddoniaeth a chelf, ac mae hyn yn awgrymu bod galw bid sicr am ddigwyddiadau 'cyfunol' tebyg yn y dyfodol i helpu i godi ymwybyddiaeth er mwyn mynd i'r afael â'r her fawr hon ym maes iechyd yn fyd-eang.”

Dewch i wybod rhagor am y prosiect a gweld yr arddangosfa ar wefan LABORDY CELF a gomisiynwyd yn arbennig.

Dolenni perthnasol

Dr David Gillespie at Techniquest

Canolfan Treialon Ymchwil

Fel y grŵp mwyaf o staff academaidd treialon clinigol yng Nghymru, rydym yn mynd i’r afael â’r clefydau mawr, a phryderon iechyd ein cyfnod ni trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr ac adeiladu perthnasau parhaus â’r cyhoedd.

Systems Immunity Research Institute

Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd

Deall imiwnedd, hwyluso triniaeth.

confocal microscope2

Ysgol y Biowyddorau

Mae gan fiowyddonwyr rôl hanfodol wrth ddod o hyd i atebion i rai o heriau mwyaf y byd - a gydag ymchwil sy'n arwain y byd, addysgu arloesol, ac awyrgylch cefnogol a chroesawgar, ni fu erioed well amser i ymuno â'n Hysgol ni.