Ewch i’r prif gynnwys

Mae Cysgod y Garan (The Shadow of the Crane) yn rhaglen drama a phypedwaith ryngweithiol a ddyluniwyd ar y cyd â gweithwyr proffesiynol arobryn yn y diwydiant theatr yng Nghymru, sef PuppetSoup.

Nod y rhaglen, sydd wedi’i hanelu at blant oedran ysgol ym mlynyddoedd 3 i 6 (Cyfnod Allweddol 2), yw ailennyn eu diddordeb mewn dysgu ar ôl y pandemig a’u hannog i ystyried mewn ffyrdd cyffrous ac mewn ffyrdd sy’n eu grymuso, bynciau a themâu amgylcheddol pwysig.

Mae’r prosiect wedi’i ysbrydoli gan Wlyptiroedd Casnewydd a Gwastadeddau Gwent ac yn cyflwyno pobl ifanc i agweddau ar hanes lleol a’r amgylchedd, ac yn helpu i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol, cyflwyno a rhyngbersonol, ac i wella eu hyder a’u gwytnwch.

An aerial image of Newport Wetlands

Mae Gwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd yn hafan i fywyd gwyllt ar gyrion Casnewydd, ac mae’n un o’r prif bethau a fu’n ysbrydoliaeth o ran y gweithdai.

Ysbrydoliaeth o'r ardal leol

Cyflwynwyd y prosiect mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghanolbarth Cymru a Chasnewydd a’r cyffiniau, ac mae cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol o ran cynnal sesiynau yn y man addysgu yng ngwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd RSBP.

Mae’r stori’n canolbwyntio ar ferch ifanc yr un oed â’r plant ysgol sy’n cymryd rhan yn y ddrama ac yn integreiddio ffeithiau a digwyddiadau go iawn sy’n deillio o Wlyptiroedd Casnewydd a’i hanes. Mae’r rhain yn cynnwys darganfod olion traed dynol o’r oes Fesolithig hwyr ger Allteuryn, a’r newyddion calonogol bod dau aran wedi adeiladu nyth ar y gwastatir yn 2016, a bod ganddynt gywion, a hynny am y tro cyntaf ers 400 mlynedd.

Ffocws arall yw llifogydd a lefelau dŵr yn codi. Mae’r Llifogydd Mawr a ddigwyddodd ym 1607 yn sail i’r agwedd hon ar y stori. Dyma un o'r trychinebau naturiol gwaethaf yn hanes Prydain.

Cafodd y gwlyptiroedd sylw yn y cyfryngau cenedlaethol yn ddiweddar pan gynigiwyd datblygu ffordd osgoi ar gyfer yr M4, a fyddai wedi mynd drwy safle nythu’r garanod ac wedi dinistrio rhannau helaeth o’r ardal; cafodd y cynnig ei ollwng oherwydd ymdrechion ymgyrchwyr.

Mae’r digwyddiadau hyn oll yn gysylltiedig â themâu allweddol y ddrama, sy’n ymwneud â rhyngweithio bodau dynol â natur ac effaith bodau dynol ar natur, amgylcheddaeth, a newid hinsawdd.  Bydd yn canolbwyntio ar neges gadarnhaol am werth cysylltu â natur, a sut yr ydym ni fel bodau dynol yn rhan fawr ohono.

The stage where the drama is performed

Mae'r ddrama a'r gweithdai yn cael eu cyflwyno gan ymarferwyr theatr mewn ysgolion o amgylch Casnewydd a Chanolbarth Cymru.

Camu i mewn i'r stori

Mae'r plot yn dilyn merch ifanc sy'n teimlo'n unig ac wedi'i dadleoli oherwydd amgylchiadau yn ei bywyd, ac mae’n mynd ati i archwilio'r gwlyptiroedd; wrth wneud hynny mae hi'n gwneud darganfyddiadau rhyfeddol – gan gynnwys ôl troed ffosil merch o'r un oedran â hi o filoedd o flynyddoedd yn ôl, yn ogystal â'r garanod a'u nyth.

Pan ddaw’r nyth dan fygythiad oherwydd argyfwng amgylcheddol mae’n rhaid iddi hi – a’r plant ysgol sy’n ymuno â’r ddrama – helpu’r adar i warchod eu cartref, a’u cywion sydd heb eu geni, a hefyd helpu i ddod o hyd i ateb arall i’r heriau a achosir gan yr angen am ddatblygu a seilwaith.

Ar ôl gwylio rhan gyntaf y ddrama, mae’r plant yn cymryd rhan mewn gweithdy creadigol i benderfynu ar y cyd beth ddylai diwedd y stori fod. Maent yn trafod eu syniadau a’u profiadau eu hunain, yn symud elfennau o’r set o gwmpas, ac yn siarad â’r ymarferwyr theatr mewn cymeriad, gan archwilio themâu a chysyniadau’r stori a datblygu eu sgiliau meddwl creadigol a beirniadol.

Paper where students have written their ideas on how the drama should end

Ar ôl gwylio rhan gyntaf y ddrama, mae’r plant yn cymryd rhan mewn gweithdy creadigol i benderfynu ar y cyd beth ddylai diwedd y stori fod.

Ymwneud â materion cyfoes

Trwy ymuno â’r ymarferwyr theatr i greu’r stori a chreu diweddglo, cyflwynir pobl ifanc i hanes lleol a’r amgylchedd. Mae sgiliau creadigol, cyflwyno, rhyngbersonol, hyder a gwytnwch y bobl ifanc yn cael eu datblygu ar yr un pryd.

“Mae digwyddiadau yn y newyddion yn wirioneddol effeithio ar blant ac eto does dim byd y gallan nhw ei wneud amdanyn nhw. Gall hyn wneud iddyn nhw deimlo’n ofnus ac yn ddiymadferth,” meddai arweinydd y prosiect, Dr Tyler Keevil. “Trwy’r gweithdai roeddem eisiau eu grymuso i ymgysylltu â materion, i feddwl drwyddynt a chwarae rhan weithredol ynddynt.”

Mae’r ymateb gan fyfyrwyr ac athrawon wedi bod yn gadarnhaol iawn. “Roedd yn wych, ac yn wirioneddol awthentig,” meddai athro o ysgol a gymerodd ran. “Roedd yn fframio’r materion cyfredol mewn ffordd y gallai disgyblion ei deall, yn enwedig gan ei bod yn ardal leol iddynt.”

Hyd yn hyn mae'r rhaglen wedi ymgysylltu â thros 200 o ddisgyblion o Flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 mewn ysgolion yn ardaloedd Canolbarth Cymru a Chasnewydd.

The Shadow of the Crane drama being performed in front of pupils

Mae pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i hanes lleol a'r amgylchedd. Mae sgiliau creadigol, cyflwyno, rhyngbersonol, hyder a gwydnwch y bobl ifanc hyn yn cael eu datblygu ar yr un pryd.

Creu gwaddol fydd yn parhau

Yn sgîl y perfformiad, mae’r plant yn myfyrio ar eu rôl yn y ddrama ac yn creu a chyflwyno eu hymatebion eu hunain i’r themâu, y cymeriadau, y stori, a’r lleoliad ar ffurf rhyddiaith, posteri a chelf.

Bydd y rhain yn cael eu coladu mewn adnodd ar-lein y bydd disgyblion, athrawon, rhieni a gweithwyr theatr proffesiynol yn gallu cael mynediad ato a’i rannu – gan sicrhau gwaddol cynaliadwy i’r prosiect.

Partneriaid

PuppetSoup