Ewch i’r prif gynnwys

Rydym wedi gwybod ers tro bod cyfleoedd i chwarae, chwerthin a rhannu hiwmor yn gynhwysion hanfodol i sicrhau plentyndod iach a hapus.

Nawr, mae ymchwil yn awgrymu bod cyfleoedd i chwarae a rhannu hiwmor yn bwysicach nag erioed i blant, yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd, pryder ac arwahanrwydd oherwydd pandemig COVID-19.

I ychwanegu at yr ymchwil hon, mae tîm o'n Hysgol Seicoleg yn gweithio gydag ysgolion ledled De Cymru a'r elusen genedlaethol Chwarae Cymru ar brosiect i hyrwyddo hiwmor a chwarae yn yr ystafell ddosbarth. Nod y prosiect yw defnyddio hiwmor a chwarae i wella lles plant yn dilyn pandemig COVID-19.

Mae ymchwil wedi dangos bod rhannu hiwmor gyda’i gilydd yn un ffordd o ddatblygu sgiliau gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol pwysig.

Tyfu i fyny yn ystod pandemig

Mae profiadau cymdeithasol plant ifanc sy’n tyfu i fyny yn ystod pandemig COVID-19 wedi'u trawsnewid yn sylweddol mewn ffyrdd sy'n debygol o effeithio ar eu datblygiad cymdeithasol a'u lles.

Yn ôl arolwg o 23,700 o blant a phobl ifanc yng Nghymru, mae ‘methu â threulio amser gyda ffrindiau’ wedi cael yr effaith fwyaf arnynt yn ystod pandemig COVID-19.

O ran datblygiad cymdeithasol, mae ymchwil yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw chwarae gyda phlant eraill. Yn yr un modd, mae rhannu hiwmor gyda’i gilydd yn un o'r blociau pwysig wrth i blant adeiladu perthnasoedd cynnes a chwareus. Mae’r perthnasoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn swyddogaethau gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol pwysig.

“Mae hiwmor yn ddiddorol iawn,” meddai arweinydd y prosiect Dr Amy Paine. “Mae'n gofyn am lawer o sgiliau gwybyddol ac mae'n ymwneud â llawer o sgiliau eraill y mae plant yn eu datblygu, megis dealltwriaeth gymdeithasol a deall emosiynau pobl eraill.”

Mae tîm y prosiect wedi creu set o 'Gemau Giggle' i athrawon eu defnyddio yn eu hystafelloedd dosbarth.

Gemau Giggle

Er mwyn hyrwyddo hiwmor a chwarae yn yr ystafell ddosbarth, mae tîm y prosiect yn cynllunio ac yn cynhyrchu adnoddau a gemau ystafell ddosbarth, sydd i’w cael yn rhad ac am ddim, ar gyfer athrawon a phlant y Cyfnod Sylfaen yn Ne Cymru.

Gan weithio gydag athrawon a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, mae'r tîm wedi creu set o 'Gemau Giggle' – Dechrau Straeon Gwirion, Gemau Dyfalu Giggle, Syrpreisys Gwirion a Rhigymau Hurt – ynghyd â chanllawiau i athrawon ar sut i'w hymgorffori i’r ystafell ddosbarth.

“Ein blaenoriaeth yw targedu ysgolion nad ydynt efallai wedi ymgysylltu ag ymchwilwyr o'r blaen, ac mewn ardaloedd a allai fod yn dan fwy o anfantais ac yn profi mwy o anghydraddoldebau nag eraill, yn enwedig o ganlyniad i COVID-19, megis Cymoedd De Cymru,” meddai Dr Paine.

Mae'r tîm hefyd yn gweithio gyda Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, sydd wedi bod yn bwydo eu harbenigedd a'u syniadau i ddyluniadau’r adnoddau. Y nod yw cefnogi athrawon i ddod â hiwmor a'i fanteision i'r ystafell ddosbarth.

“Nid mater o roi un cyfle i blant rannu hiwmor a chwerthin yw hyn,” esbonia Dr Paine. “Mae'n ymwneud â rhoi'r adnoddau angenrheidiol i athrawon, a phwysleisio i athrawon a phlant bod gan hiwmor a chwerthin le yn yr ystafell ddosbarth.”

“Nid ateb syml ar gyfer yr heriau mae plant yn eu hwynebu yw hwn, ond rydym yn gobeithio y gall fod yn rhan o newid holistaidd i wella lles.”

Gwiliwch fideo am y prosiect

Gweithio gydag athrawon

Gwahoddodd tîm y prosiect athrawon o ysgolion ar draws ardal Rhondda Cynon Taf i grwpiau ffocws i drafod beth mae chwarae yn ei olygu iddyn nhw, a sut maen nhw'n defnyddio hiwmor a chwarae yn yr ystafell ddosbarth. Buont hefyd yn trafod sut y newidiodd hyn yn ystod ac ar ôl y pandemig.

Nododd rhai o'r athrawon sut roedd y pandemig wedi gwneud eu swyddi'n fwy heriol, a'r effaith y mae wedi'i chael ar les plant, gydag un cyfranogwr yn dweud, “[Yn ystod y pandemig] mae popeth wedi bod mor ddifrifol ac heb fod yn braf iawn, ac rydych chi am i'r ysgol fod yn lle diogel a hapus a hwyliog iddyn nhw ddod iddo.”

Esboniodd eraill sut roedd chwarae a hiwmor yn bwysig iddynt yn yr ystafell ddosbarth. “Rwy'n credu’i fod yn gwneud i nifer o blant deimlo’n gartrefol ac yn gyfforddus,” meddai un cyfranogwr. “Yn gyffredinol, dwi'n meddwl eu bod nhw, o gael ychydig o hwyl a chwerthin, yn teimlo ychydig yn fwy cartrefol.”

Mae ysgolion yng ngogledd a de-ddwyrain Lloegr hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau Gemau Giggle yn eu dulliau addysgu.

Edrych tua'r dyfodol

Yn dilyn defnyddio adnoddau Gemau Giggle mewn ysgolion ledled De Cymru, mae'r tîm yn gobeithio ehangu graddfa a chyrhaeddiad y prosiect. Mae'r tîm wedi sefydlu cysylltiadau ag ysgolion yng ngogledd a de-ddwyrain Lloegr ac mae'r ysgolion hyn hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio Gemau Giggle yn eu Cyfnodau Sylfaen, gan ehangu cyrhaeddiad y prosiect hwn yng Nghymru a gweddill y DU.

Bydd y prosiect hwn yn un o gonglfeini cais dilynol am arian grant i ddeall pwysigrwydd hiwmor yn ystod plentyndod ymhellach. Mae Dr Paine a'i thîm ymchwil yn parhau â'u hymchwil i rôl hiwmor yn natblygiad a lles plant yn y prosiect 'Humour in Childhood: Pathways to Better Wellbeing, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. O’u casglu ynghyd, bydd y prosiectau hyn yn creu tystiolaeth fydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau’n ymwneud â’r ffordd mae plant yn chwarae yng Nghymru.

Dolenni cysylltiedig

Dr Sarah Gerson

Chwarae doliau’n ysgogi plant i sôn am feddyliau ac emosiynau pobl eraill, yn ôl astudiaeth newydd

Canfyddiadau diweddaraf ymchwil i effaith chwarae doliau, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, wedi’u rhyddhau

Child studying

Astudiaeth yn canfod bod dysgu ar-lein yn effeithio'n wael ar les plant

A study co-authored by Professor Bob Snowden found that secondary school children struggled to concentrate and engage with schoolwork in the move to online learning during lockdown, negatively affecting their confidence and wellbeing.

Psychology

Ysgol Seicoleg

Rydym yn cynnig addysgu o’r radd flaenaf, i israddedigion ac ôl-raddedigion, sydd wedi’i lywio gan ein hymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.

Partneriaid