Ewch i’r prif gynnwys

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru, mae’n rhaid i bob ysgol gynradd addysgu ieithoedd rhyngwladol o Flwyddyn 5 (10 i 11 oed) ymlaen.

Bydd hyn yn newid sylweddol i athrawon, nad oes gan lawer ohonynt brofiad o addysgu ieithoedd rhyngwladol na’r hyder i wneud hynny. Mae pandemig COVID-19 wedi dwysáu’r her hon – mae’r amser a oedd gan ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd wedi gorfod cael ei ddefnyddio i gynllunio a rhoi addysg o bell.

I helpu athrawon ledled Cymru i roi’r cwricwlwm newydd ar waith, mae tîm o’n Hysgol Ieithoedd Modern, yn rhan o brosiect, wedi creu pecyn cymorth sy’n cynnwys adnoddau addysgu am ddim, gan gynnwys modiwlau thematig a chanllaw addysgegol ar sut i’w haddysgu’n unol â’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Oherwydd pandemig COVID-19, mae gan athrawon lai o amser i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Profiad cadarnhaol o ddysgu iaith

Mae dechrau addysg ieithoedd rhyngwladol o Flwyddyn 5 ymlaen yn gyfle i hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau a datblygu meddylfryd iach rhyngwladol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae manteision economaidd a chymdeithasol clir i ddatblygu agwedd fwy byd-eang ymhlith pobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau mwy difreintiedig.

“Ein huchelgais yw cynnal ac ehangu sut rydym yn hyrwyddo ieithoedd modern ar bob lefel,” meddai Dr Liz Wren-Owens, arweinydd y prosiect. “Y nod wrth hyrwyddo ieithoedd ar lefel gynradd yw creu profiad cadarnhaol o ddysgu iaith ar gam cynnar, a fydd yn dylanwadu ar nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd ar lefel TGAU a thu hwnt.”

“A minnau’n llywodraethwr ysgol gynradd ac yn hyrwyddwr ieithoedd, rwy’n gwybod bod dymuniad i ddatblygu sut mae ieithoedd yn cael eu haddysgu,” meddai Dr Wren-Owens. “Yn anffodus, nid oedd gan athrawon yr amser i ddatblygu’r adnoddau nac, yn bwysicach fyth, yr hyder i’w cyflwyno.”

Rhai o’r cymeriadau – Archarwyr Ieithoedd Modern – a grëwyd ar gyfer y pecyn cymorth.

Rhoi'r cymorth sydd ei angen ar athrawon

Mae tîm y prosiect wedi gweithio gyda phedwar consortiwm addysgol rhanbarthol ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion peilot ym mhob rhanbarth, i ddatblygu adnoddau a fydd yn helpu athrawon cynradd i addysgu ieithoedd modern i’w disgyblion.

Un o'r nodau allweddol yw gwneud yr adnoddau'n hawdd eu deall a’u defnyddio gan athrawon.
“Roeddem am greu pecyn cymorth a fyddai’n siop-un-stop,” meddai Dr Wren-Owens. “Mae llawer o adnoddau unigol ar gael ar y we, Ond roeddem am gynnig pecyn cynhwysfawr o wybodaeth y gallai athrawon ei dilyn, fesul gwers.”

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys gwersi a gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Yn bwysig, mae hefyd yn cynnwys canllaw addysgegol ar sut i addysgu’r gwersi a chynnal y gweithgareddau’n unol â’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn o gymorth i athrawon nad ydynt wedi addysgu ieithoedd rhyngwladol o'r blaen.

Bydd y pecyn cymorth hefyd yn ffurfio rhan o hyfforddiant ein Cynllun Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith, lle mae myfyrwyr yn cynnal sesiynau mewn ysgolion lleol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae tîm y prosiect yn gobeithio y bydd yr adnoddau o fudd hirdymor i ysgolion uwchradd a phrifysgolion, wrth i ddisgyblion gael eu cyffroi’n fwy gan ieithoedd modern a dod yn fwy hyderus i’w siarad.
Bydd y pecyn cymorth hefyd yn ffurfio rhan o hyfforddiant ein Cynllun Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith.

“Mae’r cynllun yn hyfforddi myfyrwyr o brifysgolion yng Nghymru i gynnal sesiynau iaith a gyrfaoedd ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd. Y diben yw annog y disgyblion i fanteisio i’r eithaf ar ieithoedd ac ystyried y posibilrwydd o astudio ieithoedd ymhellach,” meddai Meleri Jenkins, cydlynydd y prosiect Llwybrau at Ieithoedd. “Ein nod yw gwneud y pecyn cymorth yn rhan o’r hyfforddiant ar gyfer carfannau yn y dyfodol o Fyfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith.”

Gall hyn helpu i atal y gostyngiad cyson yn nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd modern ar lefel TGAU a Safon Uwch, sy’n gwneud recriwtio ar gyfer cyrsiau i israddedigion yn hynod o heriol.

Dolenni perthnasol

Mae dau fyfyriwr benywaidd a myfyriwr gwrywaidd yn sefyll y tu allan o flaen adeilad ac yn gwenu wrth y camera. Maen nhw i gyd yn gwisgo crysau-t llwyd.

Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Mae'r prosiect hwn yn hyrwyddo gwelededd, defnydd a phroffil ieithoedd tramor modern drwy raglen o weithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol.

Two pupils and a mentor

Mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern

Mae'r prosiect yn gosod israddedigion ac ôl-raddedigion mewn ysgolion lleol i fentora disgyblion a'u hannog i ystyried ieithoedd rhyngwladol wrth ddewis eu hopsiynau TGAU.

Woman looking at a tablet

Ysgol Ieithoedd Modern

Mae gan Brifysgol Caerdydd un o’r Ysgolion ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.

Partners