Ewch i’r prif gynnwys

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar Fwslimiaid ym Mhrydain yn fwy na chymunedau ffydd eraill, ond serch hynny mae Mwslimiaid yn llai tebygol o gyrchu cymorth ffurfiol ar gyfer y problemau hyn – a phan fydd hyn yn digwydd, mae eu cyfraddau gwella yn is.

Mae ymchwilwyr Canolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i leihau'r mathau hyn o anghydraddoldeb hyn drwy hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Islam ymhlith ymarferwyr iechyd meddwl, a gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl ymhlith ymarferwyr crefyddol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r tîm wedi creu cwrs ar-lein newydd sy’n rhad ac am ddim, sef 'Deall Iechyd Meddwl Mewm Cymunedau Mwslimiaid', ac mae’r cwrs wedi cael ei achredu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae gan y cwrs, sydd wedi cael ei greu a’i gynnal ar blatfform FutureLearn gyda chymorth Academi Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol, y potensial i gyrraedd miloedd o ddysgwyr ledled y byd.

Nod y prosiect yw mynd i'r afael â'r heriau y bydd Mwslimiaid nad yw eu hanghenion iechyd meddwl yn cael eu diwallu yn eu hwynebu.

Yr angen am wybodaeth iechyd meddwl sy’n hawdd cael gafael arni

Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu bod rhai problemau iechyd meddwl, megis iselder, yn effeithio ar Fwslimiaid Prydain yn fwy na chymunedau ffydd eraill. Nid yw Mwslimiaid ym Mhrydain yn cael eu hatgyfeirio'n ddigonol at wasanaethau therapi ar gyfer problemau iechyd meddwl, a phan fydd Mwslimiaid yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, mae eu cyfraddau gwella yn is. Mae'r holl ffactorau hyn yn arwain at heriau difrifol i Fwslimiaid nad yw eu hanghenion iechyd meddwl yn cael eu diwallu.

Oherwydd hyn, mae cryn awydd ymhlith gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ragor o wybodaeth am iechyd meddwl Mwslimiaid - ac mae ein hymchwilwyr wedi gweld hyn o lygad y ffynnon.

“Yn 2018 buon ni’n cydweithio â Mind Cymru i drefnu seminar ar Islam ac iechyd meddwl,” meddai arweinydd y prosiect, Dr Asma Khan. “Roedd y diddordeb yn sgîl y seminar hwnnw yn enfawr – roedd yn un o'n seminarau mwyaf poblogaidd, a chafodd ei wylio bron i ddeng mil ar hugain o weithiau ar YouTube. Daethon ni i’r casgliad bod gwir angen rhoi gwybodaeth sy’n hawdd cael gafael arni i ymarferwyr Mwslimaidd ac ymarferwyr nad ydyn nhw’n Fwslimiaid ynghylch iechyd meddwl Mwslimiaid.”

Dr Asma Khan yn siarad yn lansiad y cwrs Deall Iechyd Meddwl Mewn Cymunedau Mwslimiaid.

Hybu’r drafodaeth am iechyd meddwl

Anelir y cwrs 'Deall Iechyd Meddwl Mewn Cymunedau Mwslimiaid' at gyflogwyr a sefydliadau yn y sector iechyd meddwl, yn ogystal ag ymarferwyr iechyd, gofal cymdeithasol, bugeiliol a chrefyddol ar y rheng flaen.

“Y peth diddorol am y cwrs yw ei fod wedi'i anelu at ymarferwyr Mwslimaidd ac ymarferwyr nad ydyn nhw’n Fwslimiaid,” meddai Dr Khan. “Yn ystod pob cam o'r cwrs, mae cyfleoedd i ddysgwyr drafod â'i gilydd. Rydyn ni’n gobeithio creu lle i Fwslimiaid a phobl nad ydyn nhw’n Fwslimiaid ddod i arfer â siarad â'i gilydd a chynnal sgwrs.”

“Rhywbeth rydyn ni wedi'i ddysgu gan yr holl gyfranwyr i'r cwrs, a'n holl ymchwil, yw bod gwella deialog rhwng grwpiau gwahanol sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl yn y cymunedau hyn o fudd go iawn.”

“Rydyn ni eisiau i ymarferwyr Mwslimaidd ystyried sut y gallan nhw annog pobl i siarad am iechyd meddwl mewn cyd-destun crefyddol. Er enghraifft, sut y gall imam mewn mosg beri i rywun deimlo'n gyfforddus am siarad am iechyd meddwl?”

“Ar yr un pryd, rydyn ni eisiau i ymarferwyr iechyd meddwl ei gwneud yn hawdd ac yn gyfforddus i rywun â phroblemau iechyd meddwl siarad am ei grefydd, ei ffydd a'i ysbrydolrwydd.”

Gwyliwch y fideo hwn o gwrs Deall Iechyd Meddwl Mewn Cymunedau Meddwl Mwslimiaid

Ychwanegu gwerth go iawn i ymarferwyr

Mae sicrhau bod y cwrs yn cael ei achredu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn rhan allweddol o'r prosiect. I ddysgwyr, bydd cymryd rhan yn y cwrs yn cael ei achredu yn unol â safonau ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol, a bydd y rhain yn gofnod gwerthfawr o ddatblygiad proffesiynol.

“Mae ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi ei chael yn anodd yn ystod y pandemig,” meddai Dr Khan. “Mae ymchwil yn dangos bod eu cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn enwedig wedi dioddef. Rydyn ni eisiau i'r cwrs fod yn berthnasol ond hefyd y bydd ganddo werth go iawn o ran eu datblygiad proffesiynol.”

Drwy roi rhagor o werth proffesiynol a chydnabyddiaeth i'r cwrs, mae'r tîm hefyd yn disgwyl y bydd yr achrediad yn cynyddu nifer y bobl sy’n gwneud y cwrs a’i gwblhau.

“Mae’r ffaith bod y cwrs yn cael ei achredu yn golygu bod rheolwyr llinell a goruchwylwyr yn fwy tebygol o ganiatáu i ymarferwyr ddilyn y cwrs yn ystod eu horiau gwaith, yn hytrach na gorfod dod o hyd i’r amser i ddilyn y cwrs ar benwythnosau neu gyda'r nos,” meddai Dr Khan.

Mae'r achrediad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn golygu bod y cwrs yn gofnod gwerthfawr o ddatblygiad proffesiynol i ymarferwyr iechyd meddwl.

Edrych tua'r dyfodol

Bydd tîm y prosiect yn monitro'r effaith y mae achrediad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi'i chael ar y nifer sy'n gwneud y cwrs a'i gwblhau, yn ogystal â chasglu adborth gan bartneriaid a rhanddeiliaid eraill.

Bydd timau yn y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU a'r Academi Dysgu ac Addysgu yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio datblygiad FutureLearn a chyrsiau ar-lein eraill ar draws y brifysgol.

Ar ben hyn, gobaith y tîm yw y bydd cysylltiadau agosach â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion drwy'r broses achredu yn rhoi cyfleoedd i wneud rhagor o hyfforddiant neu ymchwil er mwyn rhoi rhagor o gefnogaeth i'r rheini sy'n ymdrin â phroblemau iechyd meddwl.

Dolenni Cysylltiedig

Deall Iechyd Meddwl Mwslimiaid

Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r heriau y mae cymunedau Mwslimaidd yn eu hwynebu

Muslim Mental Health image

Free online course exploring mental health in Muslim communities

Cwrs ar-lein newydd am ddim wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl mewn cymunedau Mwslimaidd

Two female and one male student sitting at desk, writing Arabic calligraphy, smiling

Y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU

Ymchwilio i fywydau cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Partneriaid

Ymhlith partneriaid y prosiect hwn y mae:

FutureLearn

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd