Ewch i’r prif gynnwys

Teleru ac amodau

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â #TeamCardiff ym Marathon Casnewydd Cymru ABP.

Mae pob un o'n lleoedd elusennol yn ffynhonnell codi arian hollbwysig tuag at ymchwil ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser Prifysgol Caerdydd. Rydyn ni wedi buddsoddi yn ein lleoedd elusennol er mwyn inni allu eu cynnig am ddim i'n codwyr arian yn gyfnewid am eu hymrwymiad i godi arian. Mae ein telerau ac amodau, a'n proses ymgeisio, wedi'u cynllunio i helpu i wneud y mwyaf o ymdrechion codi arian #TeamCardiff a chyflymu darganfyddiadau ymchwil sy'n newid bywydau.

  1. Drwy wneud cais am un o’n lleoedd elusennol rhad ac am ddim rydym yn disgwyl i bob un o’r rhedwyr ymrwymo i godi lleiafswm y targed a osodir sef £350 ac eithrio Cymorth Rhodd.
  2. Ni fydd eich lle elusennol yn ddiogel hyd nes eich bod yn cofrestru gydag Let’s Do This AC yn creu eich tudalen JustGiving.
  3. Os nad ydych yn sefydlu eich tudalen JustGiving o fewn pythefnos o gofrestru gydag Let’s Do This, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'ch lle elusennol yn ôl.
  4. Os nad ydych wedi codi 25% o'r targed codi arian erbyn 24 Mawrth 2024, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'ch lle yn ôl, fodd bynnag, byddwn yn gwneud pob ymdrech i weithio gyda chi i'ch helpu i godi arian. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad ar ôl 24 Mawrth 2024, byddwn yn cysylltu i drafod sut y gallwn eich cefnogi i gyrraedd eich targed codi arian.
  5. Rydym yn deall bod amgylchiadau’n gallu newid. Os na allwch redeg, neu os penderfynwch beidio â gwneud hynny, rhowch wybod i ni cyn y dyddiad cau ar gyfer trosglwyddo, sef 24 Mawrth 2024 er mwyn i ni allu ailddyrannu eich lle elusennol. Ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn ddyrannu eich lle o’r newydd, a bydd hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar y swm codi arian fydd yn dod i law.
  6. 1.Yn anffodus, os byddwch yn tynnu'n ôl ar ôl y dyddiad cau ar gyfer trosglwyddo eich lle i rywun arall, sef 24 Mawrth 2024, ni fydd yn bosibl i chi ohirio rhedeg a chodi arian tan y tro nesaf i Farathon Casnewydd Cymru gael ei gynnal.
  7. Bydd pob ceiniog o’r arian a dderbyniwn yn mynd yn syth i’r achos ymchwil o’ch dewis ym Mhrifysgol Caerdydd.
  8. Mae ein lleoedd elusennol cyfyngedig yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio'r wybodaeth a roddwch yn eich cais, yn ogystal â'r drefn yr ydym yn derbyn ceisiadau. Yn anffodus, ni allwn gynnig lle i bawb, ac nid yw gwneud cais yn gwarantu lle. Os na fyddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich ychwanegu at restr wrth gefn ac yn cysylltu â chi os bydd lle ar gael. Sylwch fod ein penderfyniad yn derfynol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch donate@cardiff.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)29 2087 6551.