Ewch i’r prif gynnwys

Ymwybyddiaeth o boen

Pain management
Pain Awareness Day workshop.

Y Syniad

Darganfod anghenion y gymuned ar gyfer rheoli poen. Mae staff ym Mhrifysgol Caerdydd yn awyddus i weithio gyda'r gymuned a chael y cyfle i ofyn beth fyddai'n helpu pobl i reoli eu poen ac ymdopi ag ef. Y prif nod fyddai cefnogi datblygiadau/gweithgareddau parhaus yn y dyfodol.

Rydym hefyd am gynnig cyfleoedd i bobl fynegi eu poen drwy wahanol gyfryngau ac awgrymu beth mae poen yn ei olygu iddyn nhw, a chodi ymwybyddiaeth o amrywiaeth o adnoddau a allai helpu unigolion i chwilio am y ffyrdd gorau o reoli eu poen parhaus.

Cynnydd

Cynhaliodd y Porth cymunedol a staff academaidd o Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Boen ym mis Medi 2018 a oedd yn gysylltiedig â mis rhyngwladol ymwybyddiaeth o boen. Roedd y diwrnod yn ddigwyddiad galw heibio oedd yn caniatáu i breswylwyr lleol ddod i siarad â staff proffesiynol a myfyrwyr Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol am boen parhaus a dysgu am adnoddau i helpu i reoli poen.

Roedd sesiynau'r dydd yn cynnwys: "Beth yw poen?" Sesiwn chwalu mythau 'Caru gweithgaredd/Casáu ymarfer corff?' a gweithdy Celf am hwyl. Roedd y diwrnod yn gyfle hefyd i drigolion lleol rannu syniadau ar beth fyddai'n eu helpu i reoli eu poen ar lefel leol.

Camau nesaf

Bydd ailagor Pafiliwn y Grange yn cynnig cyfleoedd i gynnal sesiynau rheolaidd yn y gymuned ar reoli poen.