Ewch i’r prif gynnwys

Llunio Lleoedd

Grangetown
Murlun Grangetown

Ymchwilio i effaith y sectorau creadigol a diwylliannol ar ardal a'r gwahaniaethau a wnânt i'r gymuned.

Y syniad

Mae'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal darn byr o ymchwil yn edrych ar feysydd Butetown, Grangetown a Riverside yng Nghaerdydd er mwyn ystyried sut mae lleoedd yn llunio'r gweithgareddau sydd ar gael i bobl a sut mae'r gweithgareddau hynny yn eu tro yn siapio lleoedd. Mae gan yr ymchwil ddiddordeb arbennig yn rôl gweithgareddau a datblygiadau creadigol a hamdden a phwy sydd wedi elwa neu wedi colli allan o newidiadau i'r rhain dros amser. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried y cynlluniau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer datblygu Caerdydd yn y dyfodol.

Cynnydd

Cynhaliodd y Rhwydwaith Ymchwil Cyfranogiad Diwylliannol y gweithdy cyntaf ar 27 Chwefror rhwng 10am ac 1pm. Mynychwyd y sesiwn gan bobl o'r sector creadigol a diwylliannol a'r rheini â diddordeb yn rôl y sector yn ardal Bae Caerdydd.

Roedd y gweithdy'n cynnwys tynnu mapiau unigol o weithgaredd pobl eu hunain yn yr ardal a ddefnyddiwyd i lywio trafodaethau grŵp bach, gyda sesiwn olaf yn dod â phawb a'u syniadau at ei gilydd. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddarparu eu hoedran, rhyw ac elfen gyntaf eu cod post a i farcio gwaith unigol a gynhyrchwyd yn ystod y gweithdy (ar gefn y dudalen) gyda dynodwr a ddyrannwyd ar ddechrau'r sesiynau. Mae'r holl ganlyniadau wedi'u storio a'u hadrodd yn ddienw.

Camau nesaf

Mae dau weithdy arall ar y gweill ym mis Mawrth 2020; un ar gyfer aelodau'r gymuned ac un ar gyfer cynllunwyr trefol.