Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaeth L’Oréal-UNESCO i Fenywod ym maes Gwyddoniaeth

2 Tachwedd 2018

Hanan Khalil

Mae myfyriwr graddedig MSc a PhD Prifysgol Caerdydd wedi ennill Cymrodoriaeth nodedig L’Oréal-UNESCO i Fenywod ym maes Gwyddoniaeth ar gyfer ei gwaith ar y cysylltiad rhwng lefelau magnesiwm a lles iechyd meddwl a’r corff.

Fe gwblhaodd Dr Hanan Khalil, sydd ar hyn o bryd yn Athro Cyswllt Therapi Niwrolegol Ffisegol yn Adran y Gwyddorau Adsefydlu ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Jordan (JUST), ei MSc a PhD yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Arweiniodd ei MSc at ddatblygiad fframwaith ffisiotherapi ar gyfer Clefyd Huntington (HD) sydd nawr yn sail i arweiniad clinigol byd-eang. Bu ei gwaith PhD, a gefnogwyd trwy wobr Myfyriwr Ymchwil Tramor Prifysgol Caerdydd, a’i gyd-ariannu gan JUST, yn ymwneud â’r hap-dreial cyntaf erioed o ymyriad ymarfer corff ar sail DVD i Glefyd Huntington, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio yn rhyngwladol fel darn o dystiolaeth hanfodol, ac yn ymwneud â rheoli’r afiechyd yn glinigol (sydd ar gael yn Saesneg, Arabeg a Tsieinëeg ar hyn o bryd).

Ers i Dr Khalil adael Caerdydd, mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a adolygwyd ac wedi llwyddo i gael arian sbarduno (fel prif ymchwilydd) ar gyfer nifer o astudiaethau (yn arsylwadol ac ymyriadol ill dau) ym maes adsefydlu niwrolegol ar gyfer pobl â chlefyd niwro-ddirywiol.

Enillodd Dr. Khalil gymrodoriaeth ranbarthol L'Oréal-UNESCO Levant yn seiliedig ar ei phrosiect ar y cysylltiad rhwng lefelau magnesiwm a lles iechyd meddwl a’r corff mewn oedolion sy’n byw o fewn cymuned a phobl â chlefyd niwro-ddirywiol. Cynhaliwyd seremoni gyhoeddi’r Cymrodoriaethau yn Beirut ar 10 Hydref 2018.

Dywedodd Dr Khalil: “Mae ennill y gymrodoriaeth yn gyffrous iawn ac yn bendant yn fy ysgogi. Un peth y byddwn wedi hoffi ei grybwyll yw bod llawer o’r diolch yn seiliedig ar yr hyn a ddysgais gan yr Athro Monica Busse yn ystod fy mhum mlynedd yng Nghaerdydd. Rwy’n credu bod ei chael hi fel mentor yn ystod fy astudiaeth PhD wedi cael effaith tymor hir ar fy ngyrfa.

Fy mentoriaid yw’r bobl wnaeth ddylanwadu fwyaf arnaf yn ystod fy ngyrfa. Yn wir, roedd fy mentor PhD yn fenyw gref iawn a dysgais lawer o sgiliau sy’n rhan o fod yn ymchwilydd llwyddiannus ganddi, nid sgiliau gwyddoniaeth ac ymchwil yn unig.

Dr Hanan Khalil

Ychwanegodd Monica Buse, Cyfarwyddwr Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth yn y Ganolfan Treialon Ymchwil: “Rydw i’n arbennig o falch o beth mae Hanan wedi’i gyflawni yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd ac ers iddi adael. Mae’n wych gweld y ffordd mae hi wedi cymhwyso’r hyn a ddysgodd yn ystod ei hamser gyda ni yng Nghaerdydd i ddatblygu yn ymchwilydd adfer rhyngwladol ei bri.

“Mae hwn yn deyrnged go iawn i’r dull cydweithredol ar draws y brifysgol sydd wedi’i ymgorffori yng ngweithgareddau Ymchwil Clefyd Huntington Prifysgol Caerdydd a’r Ganolfan Rheoli. Mae’n llwyr haeddiannol ac yn dangos effaith rhyngwladol bositif ein hymchwil a’r gefnogaeth i fyfyrwyr.”

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.