Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilio i ddefnydd o strategaeth newydd i atal HIV

15 Awst 2018

PrEP tablet

Mae Cymru ar fin dod yn un o'r gwledydd cyntaf i edrych yn fanwl ar y defnydd o strategaeth atal HIV newydd sydd wedi'i chyflwyno ar draws y byd gyda ffocws ar fwyafu effeithiolrwydd.

Bydd Dr David Gillespie, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Heintiau, Llid ac Imiwnedd, sy’n rhan o’r Ganolfan Treialon Ymchwil, yn arwain y gwaith ymchwil ar ôl ennill Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd gwerth £393,792 sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Proffylacsis cyn dod i gysylltiad, neu PrEP, yn strategaeth atal lle mae pobl HIV-negyddol yn cymryd cyffuriau a ddefnyddir fel arfer i drin HIV, er mwyn lleihau eu risg o gael eu heintio â’r clefyd. Mae ar gyfer pobl sy’n wynebu risg uwch o gael HIV yn sgîl eu hymddygiad rhywiol neu’r posibilrwydd y gallent ddod i gysylltiad â’r haint.

Dywedodd Dr David Gillespie: "Er y profwyd bod cyffuriau PrEP yn lleihau’r siawns o gaffael HIV hyd at 86%, ychydig iawn o werthuso a fu ar sut mae’r cyffuriau hyn yn cael eu defnyddio mewn cyfatebiaeth ag ymddygiad rhywiol dros amser, ac a ellir gwella’r defnydd ohonynt er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon fyth."

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, ei benderfyniad i sicrhau bod PrEP ar gael ledled Cymru fel rhan o gyfnod prawf o dair blynedd yn 2017. Mae’r feddyginiaeth yn cynnwys dau gyffur (tenofovir disoproxil fumarate, neu TDF ac emtricitabine, neu CTB) a ddefnyddiwyd ers blynyddoedd lawer i drin HIV. Mae’r cyfuniad hwn o gyffuriau wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio fel PrEP yn yr UD ers 2012, ac yn Ewrop ers 2016.

Bydd yr astudiaeth yn monitro i ba raddau y mae cleifion yn cymryd eu meddyginiaeth fel y’i rhagnodwyd, yn cofnodi a yw meddyginiaeth yn dechrau cael ei chymryd ar ôl ei rhagnodi a phryd, am faint o amser mae’r feddyginiaeth yn cael ei chymryd ac a yw’r person wedi ymddwyn mewn ffordd a allai olygu dod i gysylltiad ag HIV.”

Ar gyfartaledd, yn ystod y chwe blynedd diwethaf, cafodd tua 153 o achosion newydd o heintio ag HIV eu diagnosio bob blwyddyn yng Nghymru. Mae mwyafrif llethol yr heintiau y ceir diagnosis yn eu cylch yng Nghymru yn cael eu trosglwyddo’n rhywiol.

Dywedodd yr Athro Ceri Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil,  "Mae’r gymrodoriaeth hon yn dwyn ynghyd raglenni ymchwil y Ganolfan ym meysydd heintiau a chadw at feddyginiaeth, a bydd yn sicrhau bod gan wasanaethau well dealltwriaeth o sut mae optimeiddio defnydd o feddyginiaeth yn ymarferol, yn arbennig lle mae meddyginiaethau’n cael eu cymryd i gynnal iechyd yn hytrach nag i drin clefyd. Bydd hwn yn waith ymchwil sy’n arwain y byd ac a fydd yn gallu dylanwadu ar wasanaethau i bobl sydd mewn perygl o ddatblygu HIV ar draws y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.”

Bydd cymrodoriaeth Dr Gillespie wedi’i lleoli yn y Ganolfan  Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd - y grŵp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru.