Ewch i’r prif gynnwys

Grant ymchwil newydd ar gyfer pennu pa mor ddiogel yw geni mewn dŵr

20 Ebrill 2018

Mother and newborn baby

Mae’r Athro Julia Sanders wedi ennill grant o £900,000 i arwain astudiaeth sy’n archwilio diogelwch geni mewn dŵr i famau a babanod.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae geni mewn dŵr wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU. Mae llawer o fenywod bellach yn defnyddio pwll wrth eni i leddfu poen, ac mae rhai, hyd at 60,000 o fenywod y flwyddyn yn y DU o bosibl, yn dewis aros yn y pwll er mwyn geni eu babanod.

Mae gan lawer o weithwyr proffesiynol a rhieni safbwyntiau cryf ar eni mewn dŵr. Mae rhai yn eiriolwyr mawr, gan hyrwyddo’r manteision, tra bo eraill yn dal i bryderu y gallai menywod sy'n geni mewn dŵr fod yn peri risgiau ychwanegol diangen i’w hunain a’u babanod.

Meddai Julia Sanders, Athro Nyrsio Clinigol a Bydwreigiaeth, sy'n gweithio ar y cyd rhwng Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Mae'r rhan fwyaf o unedau mamolaeth yn y DU bellach yn cynnig geni mewn dŵr fel dewis i fenywod, ond nid oes astudiaeth digon mawr wedi’i chynnal hyd yn hyn i ddangos a yw geni mewn dŵr yr un mor ddiogel i famau a babanod â defnyddio pwll i leddfu poen wrth eni, cyn camu allan cyn geni.

Mae’r astudiaeth PWLL (POOL study) yn bwriadu ateb y cwestiwn pwysig hwn am ddiogelwch geni mewn  dŵr. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys data o enedigaethau yn ystod y cyfnod chwe blynedd rhwng 2015 a 2020 mewn oddeutu 30 o unedau mamolaeth y GIG, a chymharu canlyniadau o 15,000 o enedigaethau dŵr â 15,000 o enedigaethau y tu allan i'r dŵr.

Fel yr esboniodd Abi Holmes, Bydwraig Ymgynghorol sy’n gweithio yng Nghaerdydd ac sy’n un o gyd-ymgeiswyr y grant: "Mae'n bwysig ein bod yn cynnal yr astudiaeth hon heb amharu ar fenywod sy’n geni neu newydd eni. Am y rheswm hwn, bydd yr astudiaeth yn defnyddio gwybodaeth a gesglir fel rhan o gofnod mamolaeth pob menyw sy’n cael ei storio ar systemau cyfrifiadurol mewn ysbytai. Ar gyfer babanod sydd angen gofal arbenigol ar ôl iddynt gael eu geni, bydd yr astudiaeth hefyd yn defnyddio data a gedwir yn y Gronfa Ddata Newyddenedigol Genedlaethol."

Meddai Billie Hunter, Athro Bydwreigiaeth yng Ngholeg Brenhinol y Bydwragedd, a fydd yn arwain ar y maes astudio i archwilio pam fod gan rai unedau mamolaeth gyfraddau uwch o enedigaethau mewn dŵr nag eraill: "Mae cael babi bob amser yn gyfnod arbennig ac mae angen gwybodaeth ar rieni i wneud y dewisiadau gorau, i’w hunain a’u babanod. Mae'r astudiaeth bwysig hon yn dwyn ynghyd arweinwyr mewn bydwreigiaeth, obstetreg, neonatoleg, ac ynghyd â staff o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, a’r NCT sy'n cynrychioli rhieni, byddwn yn cynhyrchu gwybodaeth newydd ar eni mewn dŵr fel y gall rhieni’r dyfodol wybod mwy am yr opsiynau wrth eni."

Mae’r astudiaeth yn cael ei hariannu gan yr NIHR NTA, prosiect 16/149/01 – The POOL Study. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â sandersj3@cf.ac.uk neu poolstudy@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon