Ewch i’r prif gynnwys

Gwella gofal deintyddol

15 Mai 2018

Dentist examining patient

Mae arbenigwyr deintyddol wedi llunio rhestr derfynol o sefyllfaoedd na ddylai cleifion orfod eu hwynebu, er mwyn sicrhau gofal rhagorol i gleifion ledled y byd.

Mae'r rhestr – a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd – yn cynnwys methu â nodi alergeddau cleifion a pheidio â sgrinio ar gyfer canser y geg wrth archwilio cleifion. Dyma'r cytundeb rhyngwladol cyntaf o'i math ym maes deintyddiaeth a gallai fod yn gam mawr ymlaen o ran gwella lles cleifion ledled y byd.

Mae'r rhestr y cytunwyd arni yn ymwneud ag asesiadau rheolaidd yn ogystal â llawfeddygaeth, ac yn cynnwys peidio â diheintio offer a deintyddion yn rhagnodi'r feddyginiaeth anghywir i blant.

Bydd monitro'r digwyddiadau hyn yn galluogi clinigwyr i adnabod camgymeriadau difrifol yn y gweithdrefnau a gallai alluogi awdurdodau iechyd i fonitro perfformiad deintyddion, yn ôl ymchwilwyr.

Mae'r consensws yn cyfeirio at 'ddigwyddiadau byth' - methiannau mor ddifrifol na ddylent ddigwydd dan unrhyw amgylchiadau pan fydd gweithdrefnau cywir yn cael ei dilyn.

Mae'r syniad o 'ddigwyddiadau byth' i feddygon – megis rhoi llawdriniaeth ar y rhan anghywir o'r corff neu adael offer llawfeddygol mewn corff claf ar ôl llawdriniaeth – wedi'i hen sefydlu ym maes meddygaeth. Hyd yma, nid yw'r un arferion wedi cael eu defnyddio'n eang ym maes deintyddiaeth, ac mae canllawiau deintyddiaeth ledled y byd yn amrywio.

Dywedodd Dr Andrew Carson-Stevens, Cymrawd Ymchwil Glinigol yn Is-adran Meddygaeth Boblogaeth Prifysgol Caerdydd ac Arweinydd Ymchwil Diogelwch Cleifion yng Nghanolfan PRIME Cymru: ”Gall digwyddiadau arwain at ganlyniadau torcalonnus a hyd yn oed analluogi cleifion mewn rhai achosion.

Mae ein panel rhyngwladol o arbenigwyr wedi nodi blaenoriaethau diogelwch cleifion y mae angen cymryd camau yn eu cylch erbyn hyn i wella diogelwch gofal deintyddol sylfaenol.

Bydd hyn yn cynnwys dylunio ymyriadau a deall sut orau i roi mesurau ataliol ar waith i gadw cleifion yn ddiogel."

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Aziz Sheikh, Cyfarwyddwr Sefydliad Usher ar gyfer Gwyddorau a Gwybodeg Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caeredin: "Mae 'digwyddiadau byth' yn ffordd hanfodol o gofnodi methiannau mewn gweithdrefnau sy'n rhoi diogelwch cleifion mewn perygl.

"Drwy nodi safbwynt consensws ynghylch 'digwyddiadau byth' ym maes deintyddiaeth, rydym yn gobeithio y bydd rheoleiddwyr a chyrff proffesiynol yn gallu asesu pa mor aml mae digwyddiadau o'r fath yn codi, a'u lleihau."

Rhannu’r stori hon