Ewch i’r prif gynnwys

Campws Cyfeillgar i ddraenogod

Gwyliwch ein ffilm am Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod Caerdydd

Ymgyrch genedlaethol yw’r Campws sy’n gyfeillgar i Ddraenogod gyda’r nod o wneud campysau prifysgol yn gynefinoedd gwell i ddraenogod. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill Achrediad Efydd Campws Cyfeillgar i Ddraenogod.

Yn y DU, mae nifer y draenogod wedi gostwng o leiaf 30% mewn gerddi trefol ers 2000, ac mae llai na miliwn o ddraenogod ar ôl yn y gwyllt. Mae llawer o ffactorau sy'n cyfrannu at ddirywiad draenogod, gan gynnwys gwenwyn amgylcheddol, sbwriel, damweiniau traffig ar y ffyrdd, a cholli cynefinoedd. Yn wyneb colled o'r fath, mae'n hynod bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i achub un o anifeiliaid mwyaf eiconig ac annwyl y wlad.

A ninnau’n rhan o'r Cynllun Gweithredu Gwydnwch a Bioamrywiaeth Ecosystemau (ERBAP), rydyn ni wedi ymrwymo i gynllun y Campws sy’n gyfeillgar i Ddraenogod, sef ymgyrch genedlaethol gyda’r nod o wneud campysau prifysgol yn gynefinoedd gwell i ddraenogod. Bydd campysau prifysgolion yn cwmpasu rhannau helaeth o dir, a gall y rhain fod yn gynefinoedd addas ar gyfer draenogod yn aml. Mae Campws Cyfeillgar i Ddraenogod yn cydnabod y gall y ffordd y mae prifysgolion yn defnyddio'r tir hwn effeithio’n ddirfawr ar ddraenogod.

Gwyliwch ffilm o gamera llwybr draenogod ar gampws Prifysgol Caerdydd

Lansion ni’r ymgyrch yn swyddogol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 2021. Ym mis Ionawr 2022 dyfarnwyd Achrediad Efydd Campws Cyfeillgar i Ddraenogod i ni, ac ym mis Chwefror 2023 dyfarnwyd Achrediad Arian. Mae staff a myfyrwyr yn aelodau o weithgor Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, a thrwy gydol y flwyddyn rydyn ni'n trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth, rhannu'r ymchwil ddiweddaraf, codi arian, yn ogystal ag estyn cymorth i ddraenogod sy'n byw ar gampysau. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys casglu sbwriel yn rheolaidd, ymgyrchoedd addysg, cyflwyniadau ar-lein gan arbenigwyr, ymgysylltu â phlant ysgol gynradd a grwpiau cymunedol, ac arolygon draenogod, yn ogystal â chreu corneli bywyd gwyllt â phentyrrau yn llawn logiau/dail, gwestai i bryfed a chartrefi i ddraenogod.

Mae mesurau uniongyrchol eraill i gynorthwyo draenogod ar y campws hefyd yn cael eu cynnal, megis sicrhau eu bod yn gallu cyrchu ffynonellau dŵr bob amser a gosod rhagor o 'gartrefi draenogod' ar dir y campws. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio tuag at ennill y lefel aur sy’n rhan o Achrediad Campws Cyfeillgar i Ddraenogod.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a sut i gymryd rhan, cysylltwch â ni:

Hedgehog Friendly Campus