Ewch i’r prif gynnwys

Cymuned Ymchwil

Researchers working in a busy chemistry lab

Mae Ysgol y Biowyddorau wedi ymrwymo i ddatblygu ymchwilwyr a throsi canfyddiadau gwyddonol yn effaith gymdeithasol.

Rydym yn meithrin amgylchedd ar gyfer rhagoriaeth a chydweithio, gan gefnogi ein cymuned ymchwil weithredol. Yn Ysgol y Biowyddorau, mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chynhwysol, sy'n galluogi ymchwil o safon fyd-eang a datblygiad gyrfa, wrth gyflawni effaith genedlaethol a rhyngwladol.

Cydnabuwyd ein hymrwymiad tuag at ein hamgylchedd ymchwil cynhwysol gan Wobr Arian Athena SWAN yn 2016, a gadwyd yn 2020.

Ymunais â Phrifysgol Caerdydd i ymgymryd â'm prosiect PhD. Ers hynny, rwyf wedi mynd ymlaen i barhau â fy ymchwil fel cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol yn gweithio ar wahanol brosiectau mewn gwahanol labordai sydd wedi rhoi'r sgiliau angenrheidiol i mi ddechrau ymgeisio am fy nghyllid cymrodoriaeth fy hun yn y dyfodol agos.
Dr Daniel Turnham Research Associate

Arloesedd a chydweithio

Rydyn ni wedi rhoi ein hunain yng nghanol arloesedd trwy alluogi cydweithredu yn ein Hysgol, ledled y Brifysgol, a thu hwnt.

Mae Ysgol y Biowyddorau yn arwain neu'n cyd-arwain nifer o sefydliadau a chanolfannau ymchwil y Brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys y Sefydliad Ymchwil Dŵr, y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Canolfan Maes Danau Girang, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a Chanolfan Ymchwil Biofecaneg a Biobeirianneg yn Erbyn Arthritis. Mae hyn yn cynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol gydag effaith yn y byd go iawn.

Mae ein Canolfannau Technoleg yn galluogi pawb yn ein Hysgol i gael mynediad at adnoddau technolegol, offer ac arbenigedd cydweithredol o'r radd flaenaf.

Rwyf wedi derbyn llawer o gefnogaeth a chyngor gwerthfawr yn ystod fy nghyfnod yn Ysgol y Biowyddorau. Ers ymuno â'r Brifysgol, rwyf wedi cael amser hynod o brysur o ran ymchwil, ar ôl sicrhau dwy gymrodoriaeth yn olynol yn ogystal â nifer o grantiau ymchwil eraill. Rwyf hefyd wedi derbyn gwobr ymchwilydd ifanc o fri yn fy maes ymchwil.
Dr Tatyana Shelkovnikova Research Associate