Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu amrywiaeth rhyngwladol WSA

13 Chwefror 2020

International Day
PGR students at the celebrating international event

Ar 13eg Chwefror 2020 dathlodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru amrywiaeth rhyngwladol ei chymuned PGR.

Daeth y digwyddiad hwn ynghyd, am y tro cyntaf, â charfan fawr o fyfyrwyr PhD yr Ysgol i ddathlu amrywiaeth ryngwladol a'r sbectrwm eang o ymchwil wreiddiol o ansawdd uchel.

Cafodd bwyd, cerddoriaeth a thaflunio campweithiau pensaernïol o fwy nag 20 gwlad o holl gyfandiroedd y byd eu dathlu a'u rhannu mewn awyrgylch llawen. Gorffennodd y digwyddiad prynhawn gyda darlith westai gyda'r nos ar draws yr Ysgol gan yr Athro Ian Cooper (cyn-fyfyriwr o WSA) yn tynnu sylw at bwysigrwydd treftadaeth anghyffyrddadwy.

Cychwynnwyd a threfnwyd y digwyddiad gan Dr Magda Sibley, Cyfarwyddwr Rhyngwladol, mewn cydweithrediad â Dr Federico Wulff, Dr Hiral Patel a thîm o fyfyrwyr PhD sy'n gwirfoddoli.

Mae’r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant mawr a bydd digwyddiad ar raddfa lawer mwy yn cael ei drefnu yn 2021 i ddathlu dimensiwn rhyngwladol staff, myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig WSA.

Am wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â Dr Magda Sibley (SibleyM@cardiff.ac.uk )

Rhannu’r stori hon