Ewch i’r prif gynnwys

PhD Ymarfer Creadigol ym maes Pensaernïaeth

Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes dylunio a hoffai fireinio eu medrau trwy ymarfer yn y gweithle.

Paul Hinkin Fund

Ei nod yw annog a galluogi'r sawl sy’n flaengar o safbwynt ymarfer creadigol i ymgymryd ag ymchwil drwy ddylunio, gan ganolbwyntio ar arbenigeddau a ddatblygwyd drwy ymarfer, a llenwi'r bwlch presennol o ran ymarferwyr ar lefel ddoethurol yn y ddisgyblaeth.

Meini prawf

  • Mae disgwyl i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth ac mae gwaith y maent yn ei gyflawni yno yn cyfrif fel gwaith ar gyfer y PhD.
  • Bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd gyntaf ac ail radd dda mewn Pensaernïaeth (a elwir yn Rhan 1 a 2).
  • Rhaid cefnogi ceisiadau gan bortffolio o waith dylunio a gyflawnwyd yn broffesiynol a dangos lefel uchel o gyflawniad, set o sgiliau craidd sy'n aeddfedu a sefyllfa ‘ddatblygiadol’ o ran athroniaeth a dulliau dylunio. Bydd 'cyflawniad' yn cynnwys cwblhau adeiladau, prosiectau neu gyflwyniadau cystadleuaeth a adolygwyd gan gyfoedion, wedi'u harddangos neu eu cyhoeddi ar lefel 'genedlaethol'.
  • Bydd angen profiad o dair blynedd mewn gwaith.

Cynigir hyfforddiant ymchwil ar symposia dylunio ddwywaith y flwyddyn yn yr ysgol.

Asesu

Mae’r asesiad terfynol drwy portffolio o waith dylunio gwreiddiol a gyflwynir fel arddangosfa gyda sylwadau ysgrifenedig ategol o tua 40,000 - 50,000 o eiriau wedi’u paratoi ar gyfer yr arholiad viva voce.

Sut i gyflwyno cais

Mae'r PhD ar gael fel rhaglen amser llawn 3 blynedd neu 5 mlynedd ar sail rhan-amser. Rydym yn croesawu myfyrwyr gydag ystod o gymwysterau a chyflawniadau, sy'n dangos y potensial i elwa o’n dysgu a’n haddysgu ar sail ymchwil.

Dysgwch sut i wneud cais

Cysylltiadau'r cwrs

Arweinydd rhaglen

Yr Athro Wayne Forster

Yr Athro Wayne Forster

Professor, Deputy Head of School

Email
forsterw@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4389

Ymholiadau cyffredinol

Ar gyfer bob ymholiad ynghylch y rhaglen, cysylltwch â'n Swyddfa Ymchwil: archi-research@cardiff.ac.uk